Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC, Mike Hedges AC, Jocelyn Davies AC a Mark Isherwood AC.  Dirprwyodd John Griffiths AC, Lynne Neagle AC, Bethan Jenkins AC a Suzy Davies AC ar eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(09.15 - 10.45)

2.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 8 - y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Gwilym Hughes, Prif Arolygydd, Cadw

Eifiona Williams, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

·         Gwilym Hughes, Prif Arolygydd, Cadw

·         Eifiona Williams, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu'r canlynol:

·         Y sail ar gyfer yr amcangyfrifiad o gostau o ran gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i greu a chynnal rhestrau lleol o asedau hanesyddol;

·         Yr amserlen ar gyfer adroddiad y Panel Arbenigol ar yr adolygiad mewn perthynas â darparu amgueddfeydd yn y dyfodol a'u cynaliadwyedd;

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhelliad y Pwyllgor yn ei adroddiad yn 2013 ar Bolisi Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru; sef y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau o ran cyflwyno system sy'n golygu y bydd y perchennog newydd yn cael canllawiau clir gan yr awdurdod lleol ynghylch y cyfyngiadau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'r statws rhestredig, a hynny mewn achosion lle mae chwiliadau awdurdod lleol yn dangos bod adeilad yn rhestredig a/neu mewn ardal gadwraeth;

·         Manylion am y dadansoddiad o'r wyth cytundeb partneriaeth treftadaeth sydd wedi'u treialu yn Lloegr.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1        Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1        Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(10.45 - 11.30)

5.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd yn sesiwn 8 a thrafod y materion allweddol

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ac yn ystyried y materion allweddol, er mwyn llywio ei adroddiad Cyfnod 1.

 

(11.30 - 11.45)

6.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: dulliau cymunedol o drechu tlodi - trafod y papur cwmpasu

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytuno ar ei ymagwedd o ran yr ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: dulliau cymunedol o drechu tlodi.

 

(11.45 - 12.00)

7.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2

Cofnodion:

7.1 Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar drefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi  (Cymru): adrannau 7 i 29, adrannau 31 i 88, adrannau 90 i 101, adrannau 103 i 119, adrannau 121 i 131, adrannau 133 i 145, adrannau 147 i 255, Atodlenni 2 i 11, adran 30, adran 89, adran 102, adran 120, adran 132, adran 146, adrannau 1 i 4, Atodlen 1, adrannau 5 i 6, Teitl hir.

 

 

(12.00 - 12.15)

8.

Trafod y flaenraglen waith

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.