Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00 - 09.15)

1.

Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Caethwasiaeth Fodern

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Caethwasiaeth Fodern

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC.  Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.

 

(09.15 - 10.15)

3.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru (Elfen 1) - sesiwn dystiolaeth 4: Sefydliadau plant

Achub y Plant

Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant

 

Barnardo’s Cymru

Dr Sam Clutton, Cyfarwyddwr Polisi Cynorthwyol, Barnardo’s Cymru ar ran y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant

 

Plant yng Nghymru

Catriona Williams, Plant yng Nghymru/Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru a Chomisiynydd ar Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Mary Powell-Chandler, Achub y Plant
  • Dr Sam Clutton, Barnardos Cymru ar ran Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant (ECPN)
  • Catriona Williams, Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru a Chomisiynydd ar Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU.

 

3.2 Cytunodd Catriona Williams i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • enghreifftiau o waith gan Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU ar feysydd sy’n ymwneud â thlodi plant, gan gynnwys y cyflog byw.
  • copi o’r adroddiad ar realiti ymarferol pobl sydd wedi mynd i gymorthfeydd Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol, gan gynnwys materion fel patrymau shifft, gofal plant a datblygiad cyflog.

 

(10.30 - 11.30)

4.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru (Elfen 1) - sesiwn dystiolaeth 5: Sefydliadau menywod

Gwasanaethau cymorth i fenywod (Women’s Turnaround Services), Newid Bywydau

Miriam Merkova, Rheolwr Gwasanaeth

 

Chwarae Teg

Natasha Davies, Partner Polisi

Christine O’Byrne, Arweinydd Polisi a Gwaith Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Miriam Merkova, Newid Bywydau
  • Natasha Davies, Chwarae Teg
  • Christine O’Byrne, Chwarae Teg.

 

4.2 Cytunodd Chwarae Teg i ddarparu’r ffigurau ar nifer y menywod yr effeithir arnynt gan eu prosiect Cenedl Hyblyg, gan gynnwys ar gyfer y rhanbarth de-ddwyrain.

 

(11.30 - 12.00)

5.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru (Elfen 1) - sesiwn dystiolaeth 6: The Trussell Trust

The Trussell Trust

Tony Graham, Rheolwr Rhwydwaith Banc Bwyd (Cymru)

Adrian Curtis, Cyfarwyddwr y DU

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tony Graham ac Adrian Curtis, the Trussell Trust.

 

5.2 Cytunodd the Trussell Trust i ddarparu copi o’i adroddiad ar ddatganoli’r system les.

 

6.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 y cyfarfod ar 3 Rhagfyr 2014 (ystyriaeth bellach y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caethwasiaeth Fodern)

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.00 - 12.10)

8.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru (Elfen 1): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiynau 4, 5 a 6

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.