Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Cytunodd y Pwyllgor, ar 6 Tachwedd 2013, ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 1

(09:30-10:15)

1.

Papur briffio technegol: y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Deborah Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad Llywodraeth Leol

 

Joanna Valentine, Cyllid a Pherfformiad Llywodraeth Leol

 

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio technegol ar y Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(11:00-12:15)

3.

Comisiynydd y Gymraeg: Trafod Adroddiad Blynyddol 2012/13

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu

 

Adroddiad Blynyddol 2012/13

 

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, a Gwyn Williams, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu. 

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol: