Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Legislation: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mark Isherwood. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran. |
||
(09.15 - 10.00) |
Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4 CELG(4)-23-13 – Papur 1- Y Sefydliad Cynllunio Trefol
Brenhinol yng Nghymru Dr Roisin Willmott, Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Sefydliad
Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru David Morgan, Rheolwr Polisi, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru a
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Gwnaethant gytuno i ddarparu rhagor
o wybodaeth am: ddulliau
gweithio cwmnïau cyfleustodau o ran datblygiadau tai newydd a'u perthynas â
chwmnïau adeiladu; a yw
datblygwyr llai o dan anfantais o'u cymharu ag adeiladwyr tai sy'n gweithio ar
raddfa fwy yn genedlaethol ac a yw polisi cynllunio cenedlaethol yn
anfanteisiol i ddatblygwyr canolig eu maint; rhagor o
wybodaeth am fancio tir ac effaith hynny ar gwmnïau adeiladu llai; enghreifftiau
o gyfraniadau oddi ar y safle. |
|
(10.00 - 10.40) |
Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 5 Llywodraeth Cymru CELG(4)-23-13 – Papur 3 Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio Francois Samuel, Pennaeth Adeiladu, Dyfodol Cynaliadwy Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd
Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Cytunodd y Gweinidog i
ddarparu'r canlynol: rhagor o
wybodaeth am y cynllun rhannu ecwiti a gynigiwyd, pan fydd ar gael; nodyn am
faint y cyllid preifat a godir gan gyrff trosglwyddo stoc a'r graddau y mae
hynny wedi cymell gwaith adeiladu tai; manylion am
y prosiect swyddfeydd/ystafelloedd gwely i’w rhentu ym Mhrestatyn. |
|
(10.50 - 11.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud ag adennill meddiant tai annedd Llywodraeth Cymru CELG(4)-23-13 – Papur 4 Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio Simon White - Rheolwr Prosiect, y Bil Rhentu Cartrefi Lynsey Edwards - Cyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Cytunodd y Gweinidog i
ddarparu rhagor o wybodaeth am y canlynol: hawliau
statudol tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
|
|
(11.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y Cynnig. |
|
(11.30 - 11.55) |
Dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru – ystyried yr adroddiad drafft CELG(4)-23-13 – Papur preifat 5 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
(11.55 - 12.10) |
Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon - ystyried y prif faterion CELG(4)-23-13 – Papur preifat 6 Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y prif faterion, ac ystyrir adroddiad drafft yn ystod tymor yr hydref.
|
|
(12.10 - 12.25) |
Blaenraglen Waith y Pwyllgor CELG(4)-23-13 – Papur preifat 7 Cofnodion: Bu’r
Pwyllgor yn ystyried y blaenraglen waith. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y papurau. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 19 Mehefin CELG(4)-23-13 – Papur 8 Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 27 Mehefin CELG(4)-23-13 – Papur 9 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Bethan Jenkins AC CELG(4)-23-13 – Papur 10 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Ann Jones AC CELG(4)-23-13 – Papur 11 Dogfennau ategol: |