Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Legislation: Helen Finlayson

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.15 - 10.05)

2.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, Gorchmynion Ymddygiad Troseddol a’r Trothwy Cymunedol

 

Llywodraeth Cymru

CELG(4)-22-13 – Papur 1

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth 

Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol

Claire Rooks, Rheolwr Polisi, Y Tîm Troseddu a Chyfiawnder

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

 

Gohebiaeth y mae'r Gweinidog wedi'i chael gyda'r Ysgrifennydd Cartref ynghylch yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda phlant a phobl ifanc mewn perthynas â'r Bil. 

 

Nodyn am y ffrwd ariannu ar gyfer cyfiawnder adferol.

 

Yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gynhyrchwyd ar gyfer y Bil. 

 

(10.05 - 10.55)

3.

Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1

 

Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr, Cymru, Cyf - CELG(4)-22-13 – Papur 2

Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Cymru - CELG(4)-22-13 – Papur 3

Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi - CELG(4)-22-13 – Papur 4

 

Paul Bogle, Rheolwr Polisi – Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr, Cymru, Cyf

Richard Jenkins, Cyfarwyddwr - Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Cymru

Richard Price, Cynghorydd Cynllunio a Pholisi - Cymru - Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr, Cymru, Cyf., Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Cymru a Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi.

 

 

 

(11.05 - 11.45)

4.

Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2

Sefydliad Tai Siartredig Cymru 

CELG(4)-22-13 – Papur 5

 

Keith Edwards, Cyfarwyddwr

Julie Nicholas, Rheolwr Polisi a Chysylltiadau Cyhoeddus

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru. Cytunodd y Sefydliad i ddarparu linc i adroddiad ar gartrefi cydweithredol. 

 

(11.45 - 12.25)

5.

Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3

CELG(4)-22-13 – Papur 6

 

Ian Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr, Fforest Timber Engineering Ltd

Wyn Price, Cyfarwyddwr, INTEGRA

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fforest Timber Engineering Limited ac INTEGRA. 

 

(12.25)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 7 a 8.

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(12.25 - 12.35)

7.

Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref – trafod yr adroddiad drafft

CELG(4)-22-13 – Papur preifat 7

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(12.35 - 12.45)

8.

Blaenraglen waith y Pwyllgor - Cylch gorchwyl drafft

CELG(4)-22-13 – Papur preifat 9

Cofnodion:

Yn amodol ar wneud rhai man newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad i gydweithredu.

 

9.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

9a

Tystiolaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru - Data am nofio mewn ysgolion 2012 - yn dilyn y cyfarfod ar 19 Mehefin 2013

CELG(4)-22-13 – Papur 10

Dogfennau ategol:

9b

Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deisebau sy'n ymwneud â threftadaeth

CELG(4)-22-13 – Papur i’w nodi - Papur 11

Dogfennau ategol:

9c

Gwybodaeth ychwanegol oddi wrth Stuart Williams, Undeb Cenedlaethol yr Athrawon - yn dilyn cyfarfod 27 Mehefin 2013

CELG(4)-22-13 – Papur i’w nodiPapur 12

Dogfennau ategol:

9d

Rhagor o wybodaeth oddi wrth Simon Jones, Chwaraeon Cymru - yn dilyn y cyfarfod ar 19 Mehefin 2013

CELG(4)-22-13 – Papur i’w nodiPapur 13