Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Deddfwriaeth: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor, tystion ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
||
(9.15-10.15) |
Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) (Cyfnod 1): Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ·
Carl
Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ·
Frank
Cuthbert, Pennaeth y Tîm Craffu, Democratiaeth a Chyfranogi ·
Louise
Gibson, Cyfreithiwr Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. |
|
(10.15- 10.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod: Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.20-11.20) |
Briff Ffeithiol ar y Papur Gwyn: Deddfwriaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Ymgynghoriad
ar ddeddfwriaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a cham-drin
domestig (Cymru)
·
Karin
Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr: Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol ·
Sarah
Rhodes, Rheolwr y Bil ·
Janine Roderick, Uwch-gynghorydd Polisi – Y Tîm Trais yn erbyn Menywod
a Cham-drin Domestig Cofnodion: Cafwyd briff ffeithiol ar y Papur Gwyn ar ddeddfwriaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. |
|
(11.20 - 12.00) |
Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 5.1 Bu’r pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar ychydig o fân newidiadau. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddilyn y drefn safonol o dan Rheol Sefydlog 26.21 ar gyfer Cyfnod 2. |
|
(12.00 - 12.15) |
Trafod llythyr y Pwyllgor Busnes ynghylch amserlenni'r pwyllgorau Cofnodion: 6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd i nodi’r materion a godwyd. |
|
(12.15 - 12.20) |
Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref - cytuno ar y dull o gynnal yr ymchwiliad Papur ar ymchwiliad i addasiadau yn y cartref Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o gynnal yr ymchwiliad. Awgrymodd yr Aelodau rhai tystion ychwanegol i’w cynnwys yn yr ymchwiliad a’r amserlen o dystiolaeth lafar. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |