Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Legislation: Bethan Davies

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates. 

(09.30 - 10.00)

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' - Tachwedd 2010

Shelter Cymru

Dim papur

 

John Puzey, Cyfarwyddwr

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd John Puzey o Shelter Cymru i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.

 

Cytunodd John i ddarparu nodyn am yr effaith y bydd cyflwyno’r system credyd cynhwysol yn ei gael, ac yn benodol ar y galw am gyngor ar arian a dyledion. 

(10.00 - 10.30)

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' - Tachwedd 2010

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

CELG(4)-24-12 – Papur 1

 

Lee Phillips, Rheolwr Polisi dros Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Lee Phillips o’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.

 

Cytunodd Lee i ddarparu gwybodaeth am nifer y materion sy’n ymwneud â benthyciadau diwrnod cyflog sydd wedi cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

(10.30 - 11.00)

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' - Tachwedd 2010

Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru

Dim papur

 

Nick Bennett, Prif Swyddog Gweithredol

Clare Williams, Swyddog Polisi, Gwasanaethau Tai

Nigel Draper, Pennaeth Cymdogaethau a Chymunedau, Cymoedd i’r Arfordir

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Nick Bennett, Clare Williams a Nigel Draper o Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Cytunodd Cartrefi Cymunedol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

 

Rôl swyddogion a thimau cynhwysiant ariannol cymdeithasau tai;

 

Gallu ariannol tenantiaid sy’n aelodau o grwpiau cymdeithasol penodol, fel rhai nad ydynt yn gallu siarad Saesneg;

 

Copi o’r adroddiad effaith; a

 

Data ynghylch nifer y bobl y bydd y dreth ystafell wely yn effeithio arnynt.

(11.00 - 11.30)

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' - Tachwedd 2010

CELG(4)-24-12 - Papur 2 a Phapur 2A

Cymdeithas Undebau Credyd Prydain Cyfyngedig (ABCUL)

 

Matt Bland, Swyddog Polisi a Chyfathrebu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Matt Bland o Gymdeithas Undebau Credyd Prydain Cyfyngedig i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.

6.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

6a

CELG(4) - 24-12- Papur 3 - Gwybodaeth ychwanegol o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref

6b

CELG(4) - 24 - 12 - Papur 4 a Phapur 4A - Cynhwysiant ariannol ac effaith addysg ariannol - adroddiad 2010 ac ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad