Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Virginia Hawkins 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees a William Powell.  Roedd Mark Drakeford ac Eluned Powell yn dirprwyo.

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan RenewableUK Cymru

E&S(4)-07-11 papur 1

          Llywelyn Rhys, Pennaeth RenewableUK Cymru

Piers Guy, Pennaeth Datblygu, Nuon Renewables

Caroline McGurgan, Rheolwr Prosiect, Eco2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd Llewelyn Rhys i ymgynghori ag Aelodau’r Pwyllgor i ddrafftio protocol ar gyfer Cymru ynghylch ymgynghori â chymunedau fel rhan o’r cynlluniau datblygu ar gyfer prosiectau ynni, gan gynnwys y manteision cymunedol.

 

2.3 Cytunodd Piers Guy i ddarparu manylion gwybodaeth ynghylch manteision cymunedol ar gyfer y prosiectau y mae Nuon Renewables wedi bod yn gysylltiedig â hwy.  

 

2.4 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y tystion i ddod i sesiwn dystiolaeth arall.

(10.30 - 11.30)

3.

Cyllideb ddrafft 2012-13: Craffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

E&S(4)-07-11 papur 2

John Griffiths AC, y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Matthew Quinn, Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’i swyddogion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch treulio anaerobig a manylion y costau sy’n gysylltiedig â chreu un corff amgylcheddol.

Trawsgrifiad