Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Alun Davidson 029 2089 8639
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan
Joyce Watson. Roedd Keith Davies yn
bresennol fel dirprwy. 1.2 Gwnaeth y Cadeirydd
ddatganiad mewn ymateb i adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. |
||
(09:30 - 10:30) |
Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Sesiwn graffu ariannol E&S(4)-07-13
papur 1 Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a’r Môr Christianne Glossop, y Prif Swyddog Milfeddygol Matthew Quinn, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y Gweinidog a'i
swyddogion i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i
ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am y cynllun iawndal ar gyfer
y diwydiant pysgota yn sgîl difrod y stormydd diweddar. |
|
(10:45 - 12:00) |
Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Sesiwn graffu gyffredinol Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a’r Môr Christianne Glossop, y Prif Swyddog Milfeddygol Matthew Quinn, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy Cofnodion: 3.1 Ymatebodd Gweinidog a'i
swyddogion i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i
ddarparu manylion am nifer y contractau Glastir a ddosbarthwyd i ffermwyr erbyn
1 Ionawr 2014, ac am nifer y contractau a ddychwelwyd hyd yn hyn. 3.3 Cytunodd y Gweinidog i
ddarparu manylion am sylwadau'r Pwyllgor ynghylch casglu deunydd ailgylchu i
fwrdd polisi'r Gweinidog ar ailgylchu. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Ymateb i’r argymhellion yn adroddiad rhywogaethau goresgynnol estron y pwyllgor E&S(4)-07-14 papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor ymateb
Llywodraeth Cymru. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Y wybodaeth ddiweddar ynghylch diogelu arfordir Cymru E&S(4)-07-14 papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Nododd y Pwyllgor y
llythyr. |