Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd yn yr oriel gyhoeddus i'r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns; nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.

(09.00 - 09.45)

2.

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed - Sesiwn dystiolaeth 5

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Sarah Watkins – Uwch-swyddog Meddygol

Jo Jordan – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phartneriaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:

 

Gwerthuso cynllun peilot y set ddata graidd; 

 

Pwysau ariannol Llywodraeth Leol sy'n cael effaith ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yng Nghymru; a

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch meysydd na chawsant eu cwmpasu, a'r materion penodol a godwyd yn ystod y cyfarfod.

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

3.1

Gwybodaeth ychwanegol gan Addysg Uwch Cymru yn dilyn cyfarfod 25 Mehefin

CYPE(4)-20-14 – Papur i'w nodi 1

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau - penodi Prif Swyddog Gweithredol interim i Cymwysterau Cymru

CYPE(4)-20-14 – Papur i'w nodi 2

Dogfennau ategol:

(09.45 - 10.15)

5.

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed - Trafod y prif faterion

CYPE(4)-20-14 – Papur preifat 3

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y prif faterion a chytunodd i ysgrifennu adroddiad.

(10.15 - 11.00)

6.

Y Bil Addysg Uwch (Cymru) - trafod y prif faterion

CYPE(4)-20-14 – Papur preifat 4

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r prif faterion.  Caiff adroddiad drafft ei drafod yn y cyfarfod cyntaf yn nhymor yr hydref.

(11.00 - 11.30)

7.

Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Trefniadau ar gyfer Cyfnod 1

CYPE(4)-20-14 – Papur preifat 5

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ddull Cyfnod 1, a chytunwyd arno.  Cynhelir ymgynghoriad dros yr haf.