Bil Cymwysterau Cymru: Craffu Cyn Deddfu

Bil Cymwysterau Cymru: Craffu Cyn Deddfu

Bu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu cyn y broses ddeddfu ar Fil Llywodraeth Cymru i sefydlu Cymwysterau Cymru sydd i ddod yn fuan. Nod y gwaith craffu cyn y broses ddeddfu oedd ystyried:

 

a yw’r weledigaeth a’r cylch gwaith arfaethedig ar gyfer Cymwysterau Cymru yn fodel sefydliadol effeithiol?

- pa arferion da y gellir eu mabwysiadu o wledydd eraill o ran gwahanu swyddogaethau’r rheoleiddiwr arholiadau a’r corff dyfarnu o fewn un sefydliad?

- a fydd y berthynas arfaethedig rhwng Cymwysterau Cymru, y cyrff dyfarnu gan gynnwys CBAC yn y tymor byr, a Llywodraeth Cymru, yn gweithio’n effeithiol?

- beth fydd effaith Cymwysterau Cymru ar achredu cymwysterau galwedigaethol (gan gynnwys prentisiaethau)?

Cymwysterau Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad [Opens in a new browser window] yn ddiweddar i ofyn barn ar ei chynigion i sefydlu Cymwysterau Cymru fel corff newydd, i fod yn gyfrifol am gymwysterau yng Nghymru.

Nod cynigion Llywodraeth Cymru yw cryfhau a symleiddio’r system cymwysterau yng Nghymru, er mwyn hwyluso datblygiad cymwysterau sy’n fwy perthnasol ac ymatebol i anghenion Cymru.

Bydd y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad byr, gyda phwyslais penodol, cyn y broses ddeddfu, cyn cyflwyno’r Bil yn ffurfiol. Bydd y Pwyllgor yn ymgymryd â gwaith craffu manylach,

 

Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/04/2014

Dogfennau