Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Claire Morris  / Deddfwriaeth: Liz Wilkinson

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.15)

1.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer busnes heddiw

Cofnodion:

1.1 Cafodd Julie Morgan ei hethol yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Christine Chapman.

(9:15 - 10:15)

3.

Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 5

Comisiynydd Plant Cymru

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(10.30 - 10.45)

5.

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft ar ofal newyddenedigol. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei ddiwygio yn sgîl y sylwadau a wnaed gan Aelodau, ac yn cael ei ailddosbarthu fel y gall Aelodau gytuno arno y tu allan i’r Pwyllgor.

(10.45 - 11.15)

6.

Ymchwiliad i fabwysiadu - trafod y prif themâu

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y prif themâu o’i ymchwiliad i fabwysiadu. 

(11.15 - 11.30)

7.

Papur cwmpasu ar effaith Credyd Cynhwysol ar ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yng Nghymru

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gael trafodaeth bellach ar y flaenraglen waith yn ystod y cyfarfod ar 19 Gorffennaf. 

8.

Papurau i'w nodi

8a

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan fyrddau iechyd

Dogfennau ategol:

8b

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

8c

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Dogfennau ategol:

8d

Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru): llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

8e

Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad