Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 445KB) Gweld fel HTML (478KB)

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies, Suzy Davies (ar gyfer sesiwn y prynhawn) a John Griffiths. Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu rhan.

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad dilynol i Wasanaethau Mabwysiadu yng Nghymru-sesiwn dystiolaeth 1

Adoption UK
Ann Bell, Rheolwr Datblygu yng Nghymru

Eileen Griffiths, Cadeirydd Grŵp Cynghori Adoption UK Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Adoption UK.

(10.15 - 11.15)

3.

Ymchwiliad dilynol i Wasanaethau Mabwysiadu yng Nghymru-sesiwn dystiolaeth 2

Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru – Prifysgol Caerdydd
Katherine Shelton, Uwch ddarlithydd - Yr Ysgol Seicoleg
 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Astudiaeth Cohort Mabwysiadu Cymru.

4.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau – gwaith dilynol ar wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(12.30 - 14.00)

5.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-2017 - Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd y Pwyllgor y Gweinidog ar gynigion y gyllideb ddrafft.

·         Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y fformiwla Llywodraeth Leol a ddefnyddir ar gyfer cytuno ar ostyngiadau mewn cyllid rhaglenni fel Teuluoedd yn Gyntaf.

(14.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(14.00 - 14.15)

7.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Bu’r Aelodau’n trafod y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd ar y materion allweddol i'w cynnwys mewn llythyr at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a’r Pwyllgor Cyllid.