Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 3 MB) Gweld fel HTML (427 KB)

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies, John Griffiths a Rhodri Glyn Thomas.  Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu rhan.

(09.00 - 10.00)

2.

Ymchwiliad dilynol i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3

Comisiynydd Plant Cymru

 

Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Swyddog Polisi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.

(10.00 - 11.00)

3.

Ymchwiliad dilynol i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4

Llywodraeth Cymru 

 

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Elizabeth Lockwood, Pennaeth y Gangen Lleoli Plant ac Oedolion

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac Oedolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

(11.00 - 12.00)

4.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yng Nghymru - y wybodaeth ddiweddaraf

Llywodraeth Cymru 

 

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl - Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG

Sarah Watkins, Uwch-swyddog Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y diweddaraf i'r Pwyllgor am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.  Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor:

 

Copi o Gylchlythyr Iechyd Cymru ynghylch presgripsiynu ar gyfer plant a phobl ifanc mewn perthynas â chyffuriau gwrthiselder.

 

Yr adroddiad terfynol gan Brifysgol Abertawe ar gyffuriau gwrthseicotig.

 

Manylion pellach am y therapïau seicolegol a fydd ar gael i bobl ifanc ac a fyddant ar gael ledled Cymru.

 

Adroddiad y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.

 

Manylion pellach am y data sydd ar gael a gasglwyd ar lefel gofal eilaidd ar gyffuriau presgripsiwn i blant â phobl ifanc ag ADHD.

 

Cytunodd y Pwyllgor i roi ymateb ysgrifenedig i nifer o gwestiynau na chawsant eu gofyn.  

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

5.1

Llythyr at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi - Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan y Llywydd - Adolygiad o Swydd Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Dogfennau ategol:

5.5

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau - Cyllideb Ddrafft 2016-17

Dogfennau ategol:

5.6

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Cydbwyllgor Hawliau Dynol at y Llywydd

Dogfennau ategol:

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r cyfarfodydd i’w cynnal ddydd Mercher 2 Mawrth a dydd Mercher 16 Mawrth

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(12.00 - 12.15)

7.

Ymchwiliad dilynol i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

(12.15 - 12.30)

8.

Trafod adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn llunio'r adroddiad etifeddiaeth.