Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i'r cyfarfod, a diolchodd i David Rees am weithredu fel Cadeirydd dros dro.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies a John Griffiths.  Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu rhan. 

(09.30 - 11.30)

2.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 - y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Llywodraeth Cymru

Huw Lewis AC - y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Jo-Anne Daniels - Cyfarwyddwr Dros Dro, Y Gyfarwyddiaeth Seilwaith, Cwricwlwm, Cymwysterau a Chymorth i Ddysgwyr

Steve Davies – Cyfarwyddwr Grŵp, Y Grŵp Safonau a Gweithlu Ysgolion

Huw Morris – Cyfarwyddwr Grŵp, SAUDGO

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Gweinidog a'i swyddogion a diolchodd iddynt am eu papur manwl.

Datganodd Aled Roberts AC fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24; oherwydd bod ei wraig yn cael ei chyflogi yn y sector addysg bellach a'i bod yn gyfrifol am y Gymraeg a Chymraeg i Oedolion yng Ngholeg Cambria, a bod ei fab yn fyfyriwr amser llawn yn derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

Holodd y Pwyllgor y Gweinidog ar gynigion y gyllideb ddrafft. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

(11.30)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Cafodd y papurau eu nodi.

3.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Gweinidog Addysg a Sgiliau - P-04-576 a P-04-606

Dogfennau ategol:

3.2

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17- Papur gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyllido Canolfannau Cyswllt Plant yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

(11.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(11.30 - 11.45)

5.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law, a byddai llythyr yn cael ei anfon at y Pwyllgor Cyllid.

(11.45 - 12.15)

6.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith hyd at ddiwedd y tymor.