Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies, John Griffiths, Lynne Neagle ac Aled Roberts.  Roedd Janet Haworth yn dirprwyo ar ran Suzy Davies a Mike Hedges ar ran Lynne Neagle.

(09.30 - 11.00)

2.

Craffu ar waith y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

CYPE(4)-16-15 – Papur 1

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Kate Cassidy, Cyfarwyddwr – Cymunedau a Threchu Tlodi

Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr – Yr Is-adran Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog ynghylch materion sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn ei phortffolio.  Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor:

 

Rhagor o fanylion ar p'un a yw'r elfen sy'n ymwneud â phlant anabl yng nghyllideb Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei defnyddio i ddarparu cyfleusterau chwarae i blant ag anableddau; ac

 

I rannu gyda'r Pwyllgor y cynlluniau cychwynnol ar gyfer prosiect cyfranogiad Plant yng Nghymru ac unrhyw dargedau penodol a osodwyd.

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau. 

(11.00)

3.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru)

CYPE(4)-16-15 – Papur i'w nodi 2

Dogfennau ategol:

3.2

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

CYPE(4)-16-15 – Papur i'w nodi 3

Dogfennau ategol:

3.3

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

CYPE(4)-16-15 – Papur i’w nodi 4

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru

CYPE(4)-16-15 – Papur i’w nodi 5

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Eitem 4: Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod cyfan ar 10 Mehefin

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.