Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns, John Griffiths a Lynne Neagle. Dirprwyodd Jeff Cuthbert ar ran Lynne Neagle.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 10

Llywodraeth Cymru

CYPE(4)-15-15 – Papur 1

 

Huw Lewis AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Brett Pugh, Cyfarwyddwr Grŵp-Y Grŵp Safonau a Gweithlu Ysgolion
Zenny Saunders, Pennaeth yr Uned Strategaeth a'r Gweithlu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

 

·         Bydd y Gweinidog yn ysgrifennu at y Pwyllgor ar y pwyntiau a wnaed ynghylch dull y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol o ddewis yr asiantaeth sy'n cael ei ffafrio ar gyfer athrawon cyflenwi.

 

3.

Papurau i’w nodi

(10.30)

3.1

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

CYPE(4)-15-15 – Papur i’w nodi 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.30 - 11.00)

5.

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - trafodaeth ar y dystiolaeth a dderbyniwyd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad.

 

(11.00 - 11.30)

6.

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed - y camau nesaf

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y camau nesaf yn yr ymchwiliad i CAMHS.