Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns a John Griffiths.  Roedd Paul Davies yn dirprwyo ar ran Angela Burns.

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 2

Undeb Cenedlaethol yr Athrawon Cymru (NUT) ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

CYPE(4)-09-15 – Papur 1

CYPE(4)-09-15 – Papur 2

 

Owen Hathway, Swyddog Polisi Cymru - NUT Cymru

Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol - UCAC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru.

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 3

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Awdurdodau Addysg Lleol

 

CYPE(4)-09-15 – Papur 3

 

Dr Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Daisy Seabourne, Rheolwr Polisïau Dysgu Gydol Oes, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

 

·         Data gan awdurdodau lleol am absenoldeb athrawon a'r defnydd o athrawon cyflenwi;

·         Adborth a gafwyd gan Awdurdodau Lleol sydd â darparwyr a ffefrir;

·         Gwybodaeth am y dulliau rheoli perfformiad sydd gan awdurdodau lleol o ran athrawon cyflenwi;

·         Gwybodaeth am y Cytundebau Fframwaith sydd gan Awdurdodau Lleol gydag Asiantaethau o ran datblygiad proffesiynol parhaus, a hyfforddiant;

·         Cadarnhau ar ba ddyddiad y bydd y Fframwaith newydd yn dechrau ac yn diweddu, ac a fydd yr Awdurdodau Lleol yn ymrwymedig i'r Fframwaith newydd;

·         Anfon polisi arfer gorau Cyngor Wrecsam a ddarperir i ysgolion ar athrawon cyflenwi;

·         Rhoi'r ddogfen enghreifftiol genedlaethol ddiweddaraf i'r Pwyllgor;

·         Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y trafodaethau gyda Chonsortia Rhanbarthol ar y gweithdrefnau disgyblu a ddefnyddir gan asiantaethau cyflenwi.