Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns a John Griffiths.

(09.30 - 11.00)

2.

Sesiwn Friffio gyda Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad ar Drefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon, Medi 2013

CYPE(4)-07-15  - Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

 

Steve Martin, Rheolwr Prosiect (Astudiaethau Cenedlaethol) - Swyddfa Archwilio Cymru  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eu briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ei adroddiad ar absenoldeb athrawon cyflenwi a gyhoeddwyd ym mis Medi 2013.

(11.00 - 11.15)

3.

Sesiwn friffio gan y Gwasanaeth Cyfathrebu ar ganlyniadau’r arolwg a gynhaliwyd ar gyfer yr ymchwiliad i waith athrawon cyflenwi

CYPE(4)-07-15 – Arolwg

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eu briffio gan y Gwasanaeth Cyfathrebu a’r Gwasanaeth Ymchwil ar yr arolwg a’r ymatebion ysgrifenedig a ddaeth i law ar gyfer yr ymchwiliad i athrawon cyflenwi.

(11.00 - 11.30)

4.

Trafodaeth ar yr Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymchwiliad i CAMHS.

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn dilyn ei bresenoldeb yn y cyfarfod ar 5 Chwefror.

CYPE(4)-07-15  - Papur i’w nodi 1

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 21 Ionawr.

CYPE(4)-07-15 – Papur i’w nodi 2

Dogfennau ategol: