Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC a Simon Thomas AC, dirprwyodd Lindsey Whittle.

(09.30 - 11.00)

2.

Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 7

Llywodraeth Cymru

CYPE(4)-23-14 – Papur 1
CYPE(4)-23-14- Papur 2

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Eleanor Marks, Dirprwy Cyfarwyddwr Is-adran Cymunedau

Katie Wilson, Cyfreithwraig

Kevin Griffiths, Pennaeth Pynciau Craidd – Cwricwlwm

Ceri Planchant, Cyfreithiwr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a'r Gweinidog Addysg a Sgiliau.  Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ddarparu'r canlynol:

 

Y ddarpariaeth o ran hyfforddiant cychwynnol athrawon a rhaglenni cymorth sydd ar gael ar gyfer rhaglen astudio'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a mathemateg; 

 

Lefel y cyllid sydd wedi'i neilltuo ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus, sy'n ystyried y safonau gwell o ran y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r TGAU rhifedd;

 

Amserlen ar gyfer gwerthuso'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.

(11.00 - 11.45)

3.

Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 8

Cyngor ar Bopeth Cymru a Gwasanaeth Cynghori Ariannol
CYPE(4)-23-14 – papur 3
CYPE(4)-23-14 – papur 4

 

Lindsey Kearton - Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru

Lee Phillips - Rheolwr Cymru, Gwasanaeth Cynghori Ariannol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor ar Bopeth Cymru a'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol.  Cytunodd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i ddarparu gwaith ymchwil Seicolegwyr Addysg ar ddatblygiad yr ymennydd.

(11.45 - 12.15)

4.

Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 9

Estyn
CYPE(4)-23-14 – papur 5

 

Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi

Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol

Catherine Evans, Arolygydd EM

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn.

(12.15 - 12.30)

6.

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed - Trafod yr adroddiad drafft

CYPE(4)-23-14 – papur preifat 6

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a bydd yn cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.