Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Simon Thomas a Rebecca Evans.

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel - Sesiwn dystiolaeth

CYP(4)-29-13 – Papur 1- Estyn

Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi
Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol

Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Estyn.  Gwnaethant gytuno i roi sylwadau ar gynlluniau i newid y fformiwla bandio i adlewyrchu’r ffaith bod y bwlch cyflawni wedi cau ar gyfer plant sy’n cael prydau ysgol am ddim ac i ymateb yn ysgrifenedig i gwestiynau na chawsant eu gofyn yn ystod y sesiwn.

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel

CYP(4)-29-13 – Papur 2

 

Yr Athro David Egan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro David Egan.  Cytunodd i ymateb yn ysgrifenedig i’r cwestiynau na chawsant eu gofyn yn ystod y sesiwn.

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

4a

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-2015 - Gwybodaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau

CYP(4)-29-13 – Papur i’r Nodi 3

Dogfennau ategol:

(11.30 - 12.30)

6.

Bil Addysg (Cymru) - Cyfnod 1 - Adroddiad drafft

CYP(4)-29-13 – Papur preifat 4

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.