Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Dipwyr Clerc: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.

Tystiolaeth mewn perthynas â’r Ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad

(Amser a ddynodwyd: 14.30)

 

 

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru

 

CLA(4)-13-15 – Papur 1 – Tystiolaeth Ysgrifenedig

CLA(4)-13-15 – Papur 1 A – Atodiad

CLA(4)-13-15 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Martin Peters, Rheolwr Cydymffurfiaeth, Swyddfa Archwilio Cymru.

 

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

CLA(4)-13-15 – Papur 2 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

3.1

CLA530 - Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gofynion Hyfforddi) (Cymru) 2015

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'u gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: dyddiad heb ei nodi; Yn dod i rym ar: 3 Mehefin 2015.

 

3.2

CLA531 - Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2015

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'u gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: dyddiad heb ei nodi; Yn dod i rym ar: 1 Hydref 2015.

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

CLA529 - Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'i gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi; Fe’i gosodwyd ar: dyddiad heb ei nodi; Yn dod i rym ar: 1 Medi 2015.

 

 

CLA(4)-13-15 – Papur 3 – Adroddiad

CLA(4)-13-15 – Papur 4 – Gorchymyn

CLA(4)-13-15 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol

CLA(4)-13-15 – Papur 6Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

CLA(4)-13-15 – Papur 7Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad.

 

5.

Gorchymyn Cychwyn: Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015

CLA(4)-13-15 – Papur 8 – Gorchymyn Cychwyn

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Gorchymyn Cychwyn.

 

6.

Senedd yr Alban: Pwyllgor Datganoli (Pwerau yn y Dyfodol): Adroddiad ar y Cymalau Deddfwriaethol Drafft ar gyfer Bil yr Alban Newydd

CLA(4)-13-15 – Papur 9 – Datganiad i'r wasg, 14 Mai 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad i’r wasg ar Adroddiad Pwyllgor Datganoli (Pwerau yn y Dyfodol) Senedd yr Alban

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(ix) lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y Pwyllgor, neu fusnes mewnol y Cynulliad, i gael ei drafod.

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat i ystyried y dystiolaeth a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.