Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Dipwyr Clerc: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

2.

Tystiolaeth mewn perthynas â'r ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad

(Amser a ddynodwyd: 13.30)

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Jeff Godfrey, Llywodraeth Cymru

Gill Lambert, Llywodraeth Cymru

 

 

CLA(4)-08-15 – Papur 1 – Tystiolaeth Ysgrifenedig

CLA(4)-08-15 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth. Ymgymerodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y protocol ar gyfer Papurau Gwyn y Llywodraeth a Biliau drafft a nodyn ar y newidiadau a wnaed i’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) drafft o ganlyniad i'r ymgynghoriad cyn iddo gael ei gyflwyno.

 

 

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(4)-08-15 – Papur 2 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

3.1

CLA495 – Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'i gwnaed ar: Dyddiad heb ei nodi; Fe’i gosodwyd ar: 2 Mawrth 2015; Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2015

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn statudol ac roedd yn fodlon arno.

 

4.

Papurau i’w nodi

CLA(4)-08-15 – Papur 3 – Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus:

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014

CLA(4)-08-15 – Papur 4 – Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014

 

 

CLA(4)-08-15 – Papur 5 – Datganiad ysgrifenedig: Offerynnau Statudol o dan Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014

 

CLA(4)-08-15 – Papur 6 – Llythyr gan y Llywydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

 

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor i ohirio’r cyfarfod tan 15:00

 

6.

Tystiolaeth mewn perthynas â'r ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad

Sesiwn gyhoeddus

 

(Amser a ddynodwyd: 15.00)

 

Y Gwir Anrh. Syr David Lloyd Jones, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith

Elaine Lorimer, Prif Weithredwr Comisiwn y Gyfraith

 

CLA(4)-08-15 – Papur 7 – Tystiolaeth Ysgrifenedig

CLA(4)-08-15 - Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Syr David Lloyd Jones, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith, a chan Elaine Lorimer, Prif Weithredwr Comisiwn y Gyfraith.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.