Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Dipwyr Clerc: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.

Tystiolaeth mewn perthynas â'r Ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad

(Amser a ddynodwyd: 13.30)

 

Dylan Hughes, Y Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Swyddfa Cwnsleriaid Deddfwriaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Huw Davies, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol , Swyddfa Cwnsleriaid Deddfwriaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Terry Kowal, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol, Swyddfa Cwnsleriaid Deddfwriaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

 

 

CLA(4)-07-15 – Papur 1 – Tystiolaeth Ysgrifenedig

CLA(4)-07-15 – Atodiad

CLA(4)-07-15 - Papur Briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol.

 

3.

Tystiolaeth mewn perthynas â'r Ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad

(Amser a ddynodwyd: 14.30)

 

Dr Ruth Fox, Cyfarwyddwr a Phennaeth Ymchwil, Cymdeithas Hansard

 

CLA(4)-07-15 – Papur Briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Hansard.

 

4.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

 

CLA(4)-07-15 – Papur 2 – Offerynnau Statudol gydag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

4.1

CLA494 - Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'u gwnaed ar: Dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: 24 Chwefror 2015; Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

5.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

5.1

CLA493 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2015

Y Weithdrefn gadarnhaol gyfansawdd; Fe'u gwnaed ar: Dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: 23 Chwefror 2015; Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

 

CLA(4)-07-15 – Papur 3 – Adroddiad

CLA(4)-07-15 – Papur 4 – Rheoliadau

CLA(4)-07-15 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol

CLA(4)-07-15 – Papur 6 – Nodyn Trosi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog mewn perthynas â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

6.

Papurau i’w nodi

CLA(4)-07-15 – Papur 7 – Datganiad ysgrifenedig: Canlyniadau cyfres 1 yr ymgynghoriad ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru)

 

CLA(4)-07-15 –Papur 8 - Llythyr i Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Y Bil Cynllunio (Cymru)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(xi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat.

 

7.1

Y Gyfraith mewn awdurdodaethau eraill

Papur 9 – y Gyfraith mewn Awdurdodaethau Eraill