Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Ruth Hatton

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC.   Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo.

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(4)-06-14 – Papur 1 – Offerynnau Statudol sydd ag adriddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn statudol ac roedd yn fodlon arno.

 

2.1

CLA358 - Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe'i gwnaed ar: 4 Chwefror 2014; Fe'i gosodwyd ar: 6 Chwefror 2014; Yn dod i rym ar: 1 Mawrth 2014

 

 

3.

Papurau i’w nodi

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cyhoeddi dogfen ymgynghori ar yr offerynnau statudol drafft a gaiff eu gwneud o dan y Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

CLA(4)06-14 – Papur 2

 

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Bil Dadreoleiddio.

CLA(4)-06-14 – Papur 3

 

Datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog:  Ymateb i'r bleidlais ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar ddarpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona.

CLA(4)-06-14 – Papur 4

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

(vi) lle mae’r Pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

 

(ix) lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y Pwyllgor, neu fusnes mewnol y Cynulliad, i gael ei drafod.

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.

 

4.1

Trafod yr adroddiad terfynol ynghylch yr ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE

CLA(4)-06-14 – Papur 5 – Adroddiad Drafft

 

4.2

Bil drafft Cymru: Papur briffio ychwanegol

CLA(4)-06-14 – Papur 6 – Papur briffio ychwanegol

 

4.3

Ymchwiliad i ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad

CLA(4)-06-14Papur 7 Y dull o weithio ar yr ymchwiliad i ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad

CLA(4)-06-14Papur 7 Atodiad 1; y Papur Cwmpasu Gwreiddiol

CLA(4)-06-14Papur 7 Atodiad 2; y Cylch Gorchwyl

CLA(4)-06-14Papur 7 Atodiad 3; Ymgyngoreion

CLA(4)-06-14Papur 7 Atodiad 4; Cwestiynau'r ymgynghoriad

CLA(4)-06-14Papur 7 Atodiad 5; Cynghorydd Arbenigol

 

4.4

Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

CLA(4)-06-14Papur 8 Y dull o weithio ar yr ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

CLA(4)-06-14Papur 8  Atodiad 1; Llythyr gan y Prif Weinidog

CLA(4)-06-14Papur 8  Atodiad 2; Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010

CLA(4)-06-14Papur 8 Atodiad 3; Ymgyngoreion

CLA(4)-06-14Paper 8  Atodiad 4; Darn o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

CLA(4)-06-14Papur 8 Atodiad 5; Cwestiynau a awgrymwyd ar gyfer yr ymgynghoriad

 

4.5

Blaenraglen waith

 

CLA(4)-06-14Papur 9 Y Flaenraglen Waith

 

 

4.6

Papur i'w nodi

Gwahoddiad i'r Cadeirydd fynd i'r Seminar 'Comisiynwyr ac Ombwdsmyn a Seilwaith Llywodraethu Cymru:

 

CLA(4)-06-14 – Papur 10