Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Ruth Hatton

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC. Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo.

 

2.

Adroddiad Monitro Sybsidiaredd Mai i Awst 2013

CLA(4)22-13(p1) – Adroddiad Monitro Sybsidiaredd Mai i Awst 2013

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ystyried ffyrdd o ddosbarthu adroddiadau yn y dyfodol i holl Aelodau'r Cynulliad.

 

3.

Papurau i’w nodi

CLA(4)22-13(p2) – Llythyr gan Mick Antoniw AC, adroddiad Pwyllgor y Rhanbarthau ar ddeddfwriaeth ddrafft Gwasanaeth Cyflogaeth Gyhoeddus yr UE.

 

CLA(4)22-13(p3) – Llythyr gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

4.

Tystiolaeth mewn perthynas â'r Ymchwiliad i rôl Cymru ym mhroses yr UE o wneud penderfyniadau

 

(Amser dangosol 14.45 – 15.30pm)

 

Tom Jones, Aelod Cymru o’r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol

CLA(4)22-13(p4) – Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tom Jones, Aelod Cymru o’r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol.

 

5.

Tystiolaeth mewn cysylltiad â'r Bil Addysg (Cymru)

 

(Amser dangosol 15.30 - 16.30pm)

 

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau;

Emma Williams, Pennaeth Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru;

Gemma Nye, Prif Swyddog Polisi Cyngor y Gweithlu, Llywodraeth Cymru;

Iwan Robert, y Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru;

Ceri Planchant, y Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru;

Grace Martins, y Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru.

 

 

Y Bil Addysg (Cymru)

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=7186

 

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

 

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

 

 

 

6.1

Adroddiad Drafft Adolygiad o Bwerau i Weinidogion Cymru o Filiau’r DU

CLA(4)22-13(p5) – Adroddiad Drafft