Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-5 a 7-9. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 2, 7 a 8 gan
y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 14.17 Gofynnwyd
cwestiynau 1 – 10 a 12-15. Ni ofynnwyd cwestiwn 11. Atebwyd cwestiwn 6 gan y
Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5750
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â
diogelu ysbytai rhag cael eu cau a'u hisraddio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys ar
ddiwedd y cynnig: 'ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu proses gynllunio genedlaethol ar gyfer darparu
ysbytai dosbarth ac arbenigol yng Nghymru' Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r
cyllid o £5.3 miliwn a sicrhawyd ar gyfer Ysbyty Coffa Llandrindod yn y
cytundeb cyllideb diweddar rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth
Cymru. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am
ailfywiogi ysbytai cymunedol a gwasanaethau yn y gymuned. Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad
meddyg ymgynghorol, gynaecoleg, a llawfeddygaeth y fron yn y tri ysbyty yng
ngogledd Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.03 Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5750 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi methu â diogelu ysbytai rhag cael eu cau a'u hisraddio.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin
Jones (Ceredigion) Cynnwys ar ddiwedd y Cynnig: 'ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu
proses gynllunio genedlaethol ar gyfer darparu ysbytai dosbarth ac arbenigol
yng Nghymru' Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
Gwrthodwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r cyllid o £5.3 miliwn a
sicrhawyd ar gyfer Ysbyty Coffa Llandrindod yn y cytundeb cyllideb diweddar
rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
Derbyniwyd Gwelliant 2. Gwelliant 3 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn galw am ailfywiogi ysbytai cymunedol a
gwasanaethau yn y gymuned. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
Gwrthodwyd Gwelliant 3. Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau dyfodol gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddyg
ymgynghorol, gynaecoleg, a llawfeddygaeth y fron yn y tri ysbyty yng ngogledd
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
Gwrthodwyd Gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5750 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi methu â diogelu ysbytai rhag cael eu cau a'u hisraddio. 2. Yn croesawu'r cyllid o £5.3 miliwn a
sicrhawyd ar gyfer Ysbyty Coffa Llandrindod yn y cytundeb cyllideb diweddar
rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5752
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod Cymru wedi elwa o'r cynllun economaidd
hirdymor a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac yn cydnabod bod dyfodol economaidd
a chymdeithasol Cymru yn dibynnu ar barhad y cynllun hwnnw. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y byddai
dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn cael budd o Lywodraeth y DU sy'n
cydbwyso'r gyllideb mewn ffordd deg, drwy sicrhau bod y bobl fwyaf cyfoethog yn
talu eu cyfran ac yn mynd i'r afael ag osgoi trethi, gan ein galluogi ni i
fenthyca ar gyfer buddsoddi yn ein heconomi a'n seilwaith, yn hytrach na
pheryglu sefydlogrwydd economaidd drwy fenthyca neu dorri gormod. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.55 Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5752 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod Cymru wedi elwa o'r cynllun
economaidd hirdymor a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac yn cydnabod bod dyfodol
economaidd a chymdeithasol Cymru yn dibynnu ar barhad y cynllun hwnnw.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y byddai
dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn cael budd o Lywodraeth y DU sy'n
cydbwyso'r gyllideb mewn ffordd deg, drwy sicrhau bod y bobl fwyaf cyfoethog yn
talu eu cyfran ac yn mynd i'r afael ag osgoi trethi, gan ein galluogi ni i
fenthyca ar gyfer buddsoddi yn ein heconomi a'n seilwaith, yn hytrach na
pheryglu sefydlogrwydd economaidd drwy fenthyca neu dorri gormod. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
Derbyniwyd Gwelliant 1. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5752 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod Cymru wedi elwa o'r cynllun
economaidd hirdymor a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac yn cydnabod bod dyfodol
economaidd a chymdeithasol Cymru yn dibynnu ar barhad y cynllun hwnnw. Yn credu y byddai
dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn cael budd o Lywodraeth y DU sy'n
cydbwyso'r gyllideb mewn ffordd deg, drwy sicrhau bod y bobl fwyaf cyfoethog yn
talu eu cyfran ac yn mynd i'r afael ag osgoi trethi, gan ein galluogi ni i
fenthyca ar gyfer buddsoddi yn ein heconomi a'n seilwaith, yn hytrach na
pheryglu sefydlogrwydd economaidd drwy fenthyca neu dorri gormod.
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5751
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai plismona adlewyrchu anghenion pobl
Cymru. 2. Yn credu bod heddluoedd Cymru wedi cael eu
gwleidyddoli drwy sefydlu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu etholedig. 3. Yn galw am ddileu'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu cyn
gynted â phosibl. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod pwynt 1
newydd ac ailrifo: Yn croesawu bod
troseddu wedi gostwng mwy na 20 y cant i'r lefel isaf erioed o dan Lywodraeth y
DU a bod plant dan gadwad, fel yr oedd o dan y Blaid Lafur, wedi dod i ben. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod ar
ddiwedd pwynt 1: 'ac y caiff hyn
ei wneud orau gan heddluoedd lleol ac atebol ac nid drwy greu un heddlu yng
Nghymru sydd wedi'i ganoli'n ormodol.' Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwyntiau 2
a 3 a'u disodli gyda: Yn croesawu
Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a etholir yn uniongyrchol sy'n rhoi cymunedau
lleol wrth wraidd plismona ac yn dwyn Prif Gwnstabliaid lleol i gyfrif. Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod pwynt 3
newydd ac ailrifo: Yn credu y bydd
datganoli plismona i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn galluogi polisïau i fod yn
fwy ymatebol i anghenion Cymru ac felly'n galw am ddatganoli plismona a
chyfiawnder ieuenctid, a chynnal adolygiad i ddatganoli carchardai, y
gwasanaeth prawf a chyfiawnder. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
16.49 Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5751 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai plismona adlewyrchu
anghenion pobl Cymru. 2. Yn credu bod heddluoedd Cymru wedi cael
eu gwleidyddoli drwy sefydlu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu etholedig. 3. Yn galw am ddileu'r Comisiynwyr Heddlu a
Throseddu cyn gynted â phosibl.
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.37 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5749
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Wynebu her tlodi tanwydd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.41 NDM5749 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Wynebu her tlodi tanwydd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |