Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Ebrill 2015 i'w hateb ar 6 Mai 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysgol i ddisgyblion ysgol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(40571(ESK) W

2. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i gyflwyno addysg bellach yn y dyfodol yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0569(ESK)

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion uwchradd yn Sir Benfro? OAQ(4)0564(ESK)

4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Pa strategaethau sydd gan y Gweinidog ar waith i sicrhau bod prifysgolion yng Nghymru yn parhau i wella eu safleoedd o gymharu â sefydliadau addysg uwch ar draws y DU? OAQ(4)0568(ESK)

5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ddiwygio’r cwricwlwm cenedlaethol? OAQ(4)0570(ESK)W

6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ysgolion uwchradd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0573(ESK)

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A oes gan y Gweinidog gynlluniau ar gyfer sicrhau ansawdd cymhysterau prentisiaeth yng Nghymru? OAQ(4)0574(ESK)W

8. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido addysg bellach ôl-16 yng Nghymru? OAQ(4)0575(ESK)

9. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyflwyno Cynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg? OAQ(4)0566(ESK)W

10. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg uwch yng Nghymru? OAQ(4)0565(ESK)

11. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni prentisiaeth Cymru? OAQ(4)0572(ESK)

12. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yng Nghymru? OAQ(4)0567(ESK)

13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth chweched dosbarth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0563(ESK)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiect morlyn llanw Bae Abertawe? OAQ(4)0563(EST)W

2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau? OAQ(4)0554(EST)W

3. Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cau banciau ar fusnesau bach a chanolig yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0559(EST)

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)0551(EST)

5. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Busnes Cymru? OAQ(4)0553(EST)

6. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau diweddar i'r fenter nofio am ddim? OAQ(4)0558(EST)

7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y seilwaith trafnidiaeth ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ? OAQ(4)0562(EST)

8. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon modur? OAQ(4)0556(EST)

9. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r sector gwasanaethau proffesiynol yng Nghymru? OAQ(4)0550(EST)

10. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno dros y deng mlynedd nesaf? OAQ(4)0557(EST)

 

11. Alun Ffred Jones AC (Arfon):A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau ar gyfer ffordd osgoi rhwng Caernarfon a Bontnewydd? OAQ(4)0565(EST)W

12. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac asiantaethau eraill ynghylch gwella cysylltiadau cefnffyrdd rhwng Gogledd Cymru a Lloegr? OAQ(4)0561(EST)W

13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0560(EST)

14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella'r seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0549(EST)

15. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Tasglu Murco? OAQ(4)0564(EST)