Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 15.01 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y cyngor a
gafwyd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i beidio â gwneud unrhyw sylw ar
faterion sy’n ymwneud â Cylchdaith Cymru, yn unol â’r hyn a ddatgelwyd yn
adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol a osodwyd yn y llyfrgell ar 1 Gorffennaf? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch Ariannu Addysg Uwch NDM5544
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i
Gyllido Addysg Uwch, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2014. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2014 Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.14 NDM5544
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i
Gyllido Addysg Uwch, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2014. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5546
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru; 2. Yn gresynu at: a) diffyg cyllid Llywodraeth Cymru i Croeso Cymru; b) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiddymu'r Partneriaethau
Twristiaeth Rhanbarthol; c) uchelgais cul Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella nifer yr
ymwelwyr tramor â Chymru; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar sut y mae'n
ymgynghori â darparwyr twristiaeth yng Nghymru ac yn cael ei harwain ganddynt. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall y diwydiant
twristiaeth wneud y mwyaf o botensial ein treftadaeth gyfoethog a'n hamgylchedd
amrywiol, yn ogystal â manteisio ar ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 2b newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: diffygion o ran gwasanaethau band eang a derbyniad ffôn
symudol mewn ardaloedd gwledig sy'n llesteirio gallu cystadleuol a hygyrchedd
busnesau o fewn y sector twristiaeth; Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu a
monitro data sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a gwybodaeth am y farchnad i
lywio blaenoriaethau strategol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.13 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru; 2. Yn gresynu at: a) diffyg cyllid Llywodraeth Cymru i Croeso Cymru; b) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiddymu'r Partneriaethau
Twristiaeth Rhanbarthol; c) uchelgais cul Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella nifer yr
ymwelwyr tramor â Chymru; 3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar sut y mae'n ymgynghori â darparwyr
twristiaeth yng Nghymru ac yn cael ei harwain ganddynt.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall y diwydiant
twristiaeth wneud y mwyaf o botensial ein treftadaeth gyfoethog a'n hamgylchedd
amrywiol, yn ogystal â manteisio ar ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu a
monitro data sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a gwybodaeth am y farchnad i
lywio blaenoriaethau strategol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru; 2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall y diwydiant twristiaeth wneud y mwyaf
o botensial ein treftadaeth gyfoethog a'n hamgylchedd amrywiol, yn ogystal â
manteisio ar ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. 3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu a monitro data sy'n
gysylltiedig â thwristiaeth a gwybodaeth am y farchnad i lywio blaenoriaethau
strategol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5545
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus. 2. Yn nodi nad yw'r adroddiad yn ymdrin yn gynhwysfawr â gwasanaethau
cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, yn sgil y cylch gorchwyl a nodwyd
gan Lywodraeth Cymru. 3. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer
pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus. 4. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y
cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth
genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod
etholiad nesaf y Cynulliad. Mae adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn: Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 2. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn credu y byddai’r atebolrwydd ychwanegol a fyddai’n deillio
o system bleidleisio deg yn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff
dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o
ddatblygu a darparu gwasanaethau. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd sector
roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i sicrhau yr
ymgysylltir mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn ogystal ag
arbenigedd y sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'. Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen am werthusiadau cost llawn cyn cymryd
unrhyw gamau mewn perthynas â newidiadau strwythurol i wasanaethau cyhoeddus. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5545 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus. 2. Yn nodi nad yw'r adroddiad yn ymdrin yn gynhwysfawr â
gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, yn sgil y cylch
gorchwyl a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. 3. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer
pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus. 4. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y
cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth
genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod
etholiad nesaf y Cynulliad.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 2. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn credu y byddai’r atebolrwydd ychwanegol a fyddai’n deillio
o system bleidleisio deg yn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff
dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o
ddatblygu a darparu gwasanaethau. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd sector
roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i sicrhau yr ymgysylltir
mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn ogystal ag arbenigedd y
sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd
gwelliant 4. Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen am werthusiadau cost llawn cyn cymryd
unrhyw gamau mewn perthynas â newidiadau strwythurol i wasanaethau cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5545 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus. 2. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer
pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus. 3. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y
cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth
genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod
etholiad nesaf y Cynulliad. 4. Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff
dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o
ddatblygu a darparu gwasanaethau. 5. Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd
sector roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i
sicrhau yr ymgysylltir mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn
ogystal ag arbenigedd y sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.58 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5543
Peter Black (Gorllewin De Cymru) Gweinyddu cynllun y bathodyn glas gan gynghorau lleol a
Llywodraeth Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 18.03 NDM5543 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Gweinyddu
cynllun y bathodyn glas gan gynghorau lleol a Llywodraeth Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|