Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30 Gofynnwyd cwestiynau 1-12 a 14-15. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:12 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Yr ymateb brys i’r llifogydd mawr yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:21 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Adroddiad yr Athro Brian Morgan ar Ardrethi Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:07 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Y Rhaglen Cefnogi Pobl Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:33 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Diweddariad ar yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:12 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 - Ail-drefnwyd ar gyfer 17 Gorffennaf 2012 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar y Papur Gwyrdd ar Drefniadau Etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Dyfodol NDM5006 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru i’r dyfodol: a 2. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU gyflwyno unrhyw newidiadau i’r trefniadau
etholiadol presennol heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd â’r pwer, o dan Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, i wneud darpariaethau ynghylch etholiadau Cynulliad
Cenedlaethol Cymru. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Llywodraeth Lafur flaenorol y DU wedi gwneud newidiadau i
drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb geisio caniatâd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru oni bai yr eir ati i gynyddu cymesuredd. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r bwriad i ganiatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholaeth ac mewn
rhanbarth yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 16:57. NDM5006 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru i’r dyfodol: a 2. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU gyflwyno unrhyw newidiadau i’r
trefniadau etholiadol presennol heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallwch weld y Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru i’r dyfodol drwy ddilyn y linc a ganlyn: Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd â’r pwer, o dan Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, i wneud darpariaethau ynghylch etholiadau Cynulliad
Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Llywodraeth Lafur flaenorol y DU wedi gwneud newidiadau i
drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb geisio caniatâd Cynulliad
Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru oni bai yr eir ati i gynyddu cymesuredd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r bwriad i ganiatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholaeth ac mewn rhanbarth yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant
4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5006 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru i’r dyfodol: a 2. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU gyflwyno unrhyw newidiadau i’r
trefniadau etholiadol presennol heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 3. Yn nodi mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd â’r pwer, o dan Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, i wneud darpariaethau ynghylch etholiadau Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar y Strategaeth Iechyd Meddwl NDM5005 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Strategaeth Iechyd Meddwl ddrafft, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl,
sy’n destun ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd.
http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/mhealth/?skip=1&lang=cy Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno toriadau termau real i’r
gyllideb iechyd yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac yn mynegi pryder y gallai'r
rhain amharu ar weithredu Strategaeth Iechyd Meddwl. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y manteision economaidd posibl y byddai Strategaeth Iechyd
Meddwl effeithiol yn eu cynnig i Gymru. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu data gwaelodlin priodol a
dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau y gellir mesur unrhyw gynnydd yn
erbyn y Strategaeth Iechyd Meddwl. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen i holl Weinidogion Cymru ymwneud yn llawn â’r broses o
gyflwyno’r Strategaeth Iechyd Meddwl, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddatblygu prosesau cadarn i sicrhau bod Gweinidogion yn atebol am eu cyfraniad
tuag at wella lles ac iechyd meddwl yng Nghymru. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y gall cleifion â chyflyrau corfforol hirdymor fod â phroblemau
iechyd meddwl hefyd; Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y gwaith ymchwil a wnaed gan y King’s Fund sy’n nodi y gall
problemau iechyd corfforol a meddyliol sy’n cydfodoli arwain at gyfraddau uwch
o bobl yn cael eu hanfon i’r ysbyty, mwy o ddefnydd ar wasanaethau cleifion
allanol, a dulliau hunan-reoli llai effeithiol gan gleifion. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siwr bod y cysylltiad rhwng
problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol hirdymor yn cael ei gynnwys yn
strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ac yr anogir cydweithio agosach rhwng
gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am iechyd meddwl a chorfforol cleifion er
mwyn gwella canlyniadau. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17:40 NDM5005 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Strategaeth Iechyd Meddwl ddrafft, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl,
sy’n destun ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd. Gallwch weld Law yn Llaw at Iechyd Meddwl drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/mhealth/?skip=1&lang=cy Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno toriadau termau real i’r
gyllideb iechyd yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac yn mynegi pryder y
gallai'r rhain amharu ar weithredu Strategaeth Iechyd Meddwl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y manteision economaidd posibl y byddai Strategaeth Iechyd
Meddwl effeithiol yn eu cynnig i Gymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu data gwaelodlin priodol a
dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau y gellir mesur unrhyw gynnydd yn
erbyn y Strategaeth Iechyd Meddwl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen i holl Weinidogion Cymru ymwneud yn llawn â’r broses o
gyflwyno’r Strategaeth Iechyd Meddwl, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddatblygu prosesau cadarn i sicrhau bod Gweinidogion yn atebol am eu cyfraniad
tuag at wella lles ac iechyd meddwl yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y gall cleifion â chyflyrau corfforol hirdymor fod â phroblemau
iechyd meddwl hefyd; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y gwaith ymchwil a wnaed gan y King’s Fund sy’n nodi y gall
problemau iechyd corfforol a meddyliol sy’n cydfodoli arwain at gyfraddau uwch
o bobl yn cael eu hanfon i’r ysbyty, mwy o ddefnydd ar wasanaethau cleifion
allanol, a dulliau hunan-reoli llai effeithiol gan gleifion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant
6. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr
bod y cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol
hirdymor yn cael ei gynnwys yn strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ac yr
anogir cydweithio agosach rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am iechyd
meddwl a chorfforol cleifion er mwyn gwella canlyniadau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant
7. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5005 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Strategaeth Iechyd Meddwl ddrafft, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl,
sy’n destun ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd. Yn cydnabod y manteision economaidd posibl y byddai Strategaeth Iechyd
Meddwl effeithiol yn eu cynnig i Gymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu data gwaelodlin priodol a
dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau y gellir mesur unrhyw gynnydd yn
erbyn y Strategaeth Iechyd Meddwl. Yn cydnabod yr angen i holl Weinidogion Cymru ymwneud yn llawn â’r broses o
gyflwyno’r Strategaeth Iechyd Meddwl, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddatblygu prosesau cadarn i sicrhau bod Gweinidogion yn atebol am eu cyfraniad
tuag at wella lles ac iechyd meddwl yng Nghymru. Yn cydnabod y gall cleifion â chyflyrau corfforol hirdymor fod â phroblemau
iechyd meddwl hefyd. Yn cydnabod y gwaith ymchwil a wnaed gan y King’s Fund sy’n nodi y gall
problemau iechyd corfforol a meddyliol sy’n cydfodoli arwain at gyfraddau uwch
o bobl yn cael eu hanfon i’r ysbyty, mwy o ddefnydd ar wasanaethau cleifion
allanol, a dulliau hunan-reoli llai effeithiol gan gleifion. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr
bod y cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol hirdymor
yn cael ei gynnwys yn strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ac yr anogir
cydweithio agosach rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am iechyd meddwl
a chorfforol cleifion er mwyn gwella canlyniadau.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18:30 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |