Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30. Gofynnwyd cwestiynau 1-6 a 8-15. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Cafodd cwestiwn 11 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.13. Gofynnwyd y 2 gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17. Gofynnwyd y 4 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Cafodd cwestiynau 1-3 eu hateb gan Peter Black. Cafodd cwestiwn 4 ei ateb gan Rhodri Glyn Thomas. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yng Nghymru NDM4962 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y
Glannau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2012. Noder: Gosodwyd ymateb y Prif Weinidog ar 18 Ebrill 2012. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.28. NDM4962 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y
Glannau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4963 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
bod yr hinsawdd economaidd anodd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod cyrff
cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau posibl am
arian. 2. Yn cymeradwyo
unrhyw ymdrechion gan awdurdodau lleol i wneud arbedion er mwyn darparu gwerth
am arian y trethdalwyr; 3. Yn nodi
ymhellach fod gormod o wastraff o hyd ar lefel Llywodraeth Leol; a 4. Yn
gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i arwain drwy esiampl wrth yrru’r
agenda gwerth am arian yn ei blaen. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 4. Gwelliant
2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn croesawu’r gwerth am arian sy’n cael
ei gyflawni gan awdurdodau a arweinir gan y Democratiaid Rhyddfrydol sydd
wedi’u galluogi i ddarparu codiadau isel yn y dreth gyngor dros y pedair
blynedd diwethaf. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.19. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4963 William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod yr hinsawdd economaidd anodd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian. 2. Yn cymeradwyo unrhyw
ymdrechion gan awdurdodau lleol i wneud arbedion er mwyn darparu
gwerth am arian y trethdalwyr; 3. Yn nodi ymhellach
fod gormod o wastraff o hyd ar lefel Llywodraeth
Leol; a 4. Yn gresynu wrth
fethiant Llywodraeth Cymru i arwain drwy esiampl wrth
yrru’r agenda gwerth am arian yn ei
blaen.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 4. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r gwerth am arian sy’n cael ei gyflawni gan awdurdodau a arweinir gan y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi’u galluogi i sicrhau codiadau isel yn y dreth gyngor dros y pedair blynedd diwethaf. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4963 William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi bod yr hinsawdd economaidd anodd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian. 2. Yn cymeradwyo unrhyw
ymdrechion gan awdurdodau lleol i wneud arbedion er mwyn darparu
gwerth am arian y trethdalwyr; a 3. Yn nodi ymhellach
fod gormod o wastraff o hyd ar lefel Llywodraeth
Leol.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4964 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol; b) bod awdurdodau lleol yn hanfodol i gynaliadwyedd economïau lleol; c) ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn gyflogwyr da, cyfrifol; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo arfer da ymysg awdurdodau lleol, gan gynnwys creu partneriaethau, sy’n diwallu anghenion lleol. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Yn is-bwynt 1b), dileu popeth ar ôl ‘awdurdodau lleol’ a rhoi yn ei le: ‘yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at economïau lleol, ond yn
credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ymgysylltu’n ehangach â'r sector annibynnol
a'r trydydd sector er mwyn sicrhau bod ffyniant economïau lleol yn gynaliadwy' Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd ethol cynghorwyr sydd â gweledigaeth ar gyfer gwella gwasanaethau lleol er mwyn codi safonau. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.19. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4964 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol; b) bod awdurdodau lleol yn hanfodol i gynaliadwyedd economïau lleol; c) ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn gyflogwyr da, cyfrifol; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo arfer da ymysg awdurdodau lleol, gan gynnwys creu partneriaethau, sy’n diwallu anghenion lleol.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.13. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4961 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Troi Cefn neu Wthio i’r Cyrion: Beth sy’n digwydd i’r Pedwerydd Ystad yng Nghymru? Dadl ar rôl y cyfryngau yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.16. NDM4961 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro) Troi Cefn neu Wthio i’r Cyrion: Beth sy’n digwydd i’r Pedwerydd Ystâd yng Nghymru? Dadl ar rôl y cyfryngau yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |