Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | |
---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r Llywydd
wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30. Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4 a 6 - 14. Tynnwyd cwestiynnau 5 a 15 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:21. |
||
(30 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:37. |
||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Strategaeth Pysgodfeydd Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:07. |
||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol NDM4913 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gwasanaethau Ariannol
fel y’i cyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin ar 26 Ionawr 2012 mewn perthynas â’r Corff
Addysg Ariannol Defnyddwyr (CAAD), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dogfennau Ategol
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.46 Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||
(15 munud) |
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012 NDM4949 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru)
2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012
yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
6 Mawrth 2012. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.47 Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||
(60 munud) |
Dadl: Cynllun Drafft ar Hawliau Plant i’w gymeradwyo o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011: Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 20 Mawrth 2012. Dogfen Ategol Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r
Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw
dyledus i’r CCUHP. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n
briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i
roi sylw dyledus i’r CCUHP. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach
sy’n mynnu bod Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.55 NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011: Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 20 Mawrth 2012. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r
Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw
dyledus i’r CCUHP. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n
briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i
roi sylw dyledus i’r CCUHP. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad
yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach sy’n mynnu bod
Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig: NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011: Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 20 Mawrth 2012. Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r
Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw
dyledus i’r CCUHP. Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n
briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i
roi sylw dyledus i’r CCUHP. Yn gresynu nad
yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach sy’n mynnu bod
Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad. Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |