Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30.

 

Gofynnwyd y 15 cwestiwn.  Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.23.

 

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Mynd i’r Afael â Masnachu Mewn Pobl yng Nghymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.33.

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.12.

 

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Glastir – gweithredu’r cynllun

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.00

 

(30 munud)

6.

Dadl ar y Gyllideb Atodol

NDM4914 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2012.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Y Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12
Nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol

Addroddiad Y Pwyllgor Cyllid: Craffu ar gynnig y Gyllideb Atodol ar gyfer 2011–2012 (Gwanwyn 2012)
Y Gwasanaeth Ymchwil - Cyllideb Atodol 2011-12

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4914 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2012.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

·         nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

21

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.12

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: