Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Penderfyniad:

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf.  Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

 

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.

(60 munud)

3.

Dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM4864

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

 

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) y doreth o gwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog sydd ar waith yng Nghymru;

 

b) y cyfraddau llog eithriadol o uchel y mae nifer o gwmnïau o'r fath yn eu codi ar eu cwsmeriaid;

 

c) ei bod yn haws cael gafael ar fenthyciadau o’r fath drwy ffonau deallus a’r rhyngrwyd; a

 

d) y potensial i fenthyca o’r fath greu dyledion difrifol ymysg ein cymunedau tlotaf a sugno arian allan ohonynt.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r trydydd sector i weithio gyda’i gilydd cymaint ag y bo modd i gynnig dewisiadau hyfyw eraill yn lle cwmnïau o’r fath er mwyn tynnu sylw dinasyddion at gost go iawn y benthyciadau a gynigir.

 

Gyda chefnogaeth:

 

Keith Davies (Llanelli)

 

Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

 

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

 

David Rees (Aberafan)

 

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

 

Nick Ramsay (Mynwy)

 

Julie James (Gorllewin Abertawe)

 

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

 

Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)

 

Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

 

Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)

 

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Alun Ffred Jones (Arfon)

 

Leanne Wood (Canol De Cymru)

 

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

4.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4899 William Graham (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod ei bod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi ac ymestyn disgyblion o bob gallu er mwyn gwella cyrhaeddiad a safonau addysgol ar draws Cymru;

 

2. Yn gresynu nad yw gallu nifer o ddisgyblion galluog a thalentog yn cael ei herio ddigon yn ysgolion Cymru; a

 

3: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau gorau yng Nghymru fel mater o frys.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

‘, gan ddechrau yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig’.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu’r cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau TGAU yng Nghymru er 1999.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r £20 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer y Gronfa Amddifadedd Disgyblion y cytunwyd arno yng nghyllideb derfynol mis Rhagfyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd yn monitro’r gronfa i sicrhau y bydd yn cael ei defnyddio i wella safonau addysgol.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod data am ‘Wariant a Gyllidebwyd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer Ysgolion: Cymhariaeth Cymru/Lloegryn parhau i fod ar gael er mwyn sicrhau bod modd monitro gwariant i wella safonau addysgol.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4899 William Graham (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi ac ymestyn disgyblion o bob gallu er mwyn gwella cyrhaeddiad a safonau addysgol ar draws Cymru;

 

2. Yn gresynu nad yw gallu nifer o ddisgyblion galluog a thalentog yn cael ei herio ddigon yn ysgolion Cymru; a

 

3: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau gorau yng Nghymru, fel mater o frys.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

‘, gan ddechrau yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu’r cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau TGAU yng Nghymru er 1999.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r £20 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer y Gronfa Amddifadedd Disgyblion y cytunwyd arno yng nghyllideb derfynol mis Rhagfyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd yn monitro’r gronfa i sicrhau y bydd yn cael ei defnyddio i wella safonau addysgol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

8

13

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod data am ‘Wariant a Gyllidebwyd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer Ysgolion: Cymhariaeth Cymru/Lloegryn parhau i fod ar gael er mwyn sicrhau bod modd monitro gwariant i wella safonau addysgol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4899 William Graham (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi ac ymestyn disgyblion o bob gallu er mwyn gwella cyrhaeddiad a safonau addysgol ar draws Cymru, gan ddechrau yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

 

2. Yn croesawu’r cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau TGAU yng Nghymru er 1999.

 

3. Yn croesawu’r £20 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer y Gronfa Amddifadedd Disgyblion y cytunwyd arno yng nghyllideb derfynol mis Rhagfyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd yn monitro’r gronfa i sicrhau y bydd yn cael ei defnyddio i wella safonau addysgol.

 

4. Yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod data am ‘Wariant a Gyllidebwyd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer Ysgolion: Cymhariaeth Cymru/Lloegryn parhau i fod ar gael er mwyn sicrhau bod modd monitro gwariant i wella safonau addysgol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

13

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

(60 munud)

5.

Dadl Plaid Cymru

NDM4900 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn

 

1. Croesawu'r penderfyniadau adeiladol ar Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Durban, De Affrica, 28 Tachwedd i 9 Rhagfyr 2011;

 

2. Croesawu cyfraniad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy at ganlyniad y gynhadledd ac yn llongyfarch Llywodraeth Cymru gan fod Cynllun Prosiect Partneriaeth Plannu Coed Mbale-Cymru wedi cael ei ddewis yn un o 9 prosiect enghreifftiol y Cynllun Momentwm i Newid; a

 

3. Galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi achrediad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer cyfrannu at Gynhadledd Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro, Mehefin 20-22 2012.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:

 

‘ac yn cydnabod y swyddogaeth ganolog sy’n cael ei chwarae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd i drafod telerau’r cytundeb hwn’.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 2, dileuCroesawu’ a rhoiNodiyn ei le.

 

Gwelliant 3 -  William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 3 dileu ‘i gefnogi achrediad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer cyfrannu at’ a rhoi yn ei le ‘i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn manteisio ar bob cyfle i gael y setliad byd-eang gorau o’r’.

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4900 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn

 

1. Croesawu penderfyniadau adeiladol Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Durban, De Affrica, 28 Tachwedd - 9 Rhagfyr 2011;

 

2. Croesawu cyfraniad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy at ganlyniad y gynhadledd ac yn llongyfarch Llywodraeth Cymru gan fod Cynllun Prosiect Partneriaeth Plannu Coed Mbale-Cymru wedi cael ei ddewis yn un o naw prosiect enghreifftiol y Cynllun Momentwm i Newid; a

 

3. Galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi achrediad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer cyfrannu at Gynhadledd Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro, 20-22 Mehefin 2012.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.36

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

6.

Dadl Fer - WEDI'I GOHIRIO

NDM4898 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

 

All Cymru Dalu ei Ffordd ei Hun?

 

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: