Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Gofynnwyd cwestiynau 1 - 6, 8 - 12 ac 14. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Gofynnwyd cwestiynau 1 – 2 a 4. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Atebwyd cwestiynau 1 a 5 gan Peter Black. Atebwyd cwestiynau 3 a 7 gan Sandy Mewies. Atebwyd cwestiynau 4 a 6 gan Rhodri Glyn Thomas. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM4862 Mick Antoniw
(Pontypridd) Nick Ramsay (Mynwy) Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Byron Davies (Gorllewin De Cymru) Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Keith Davies
(Llanelli) Christine Chapman
(Cwm Cynon) Lynne Neagle (Tor-faen) Eluned Parrott (Canol
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r
ystod eang o gefnogaeth, gan gynnwys gan Lywodraeth
Cymru, ar gyfer system teithio cyflym integredig (metro) yn seiliedig ar rwydwaith
rheilffyrdd y cymoedd; 2. Yn cydnabod
nad yw
trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd wedi’i ddatganoli a bod hynny’n rhagofyniad ar gyfer datblygu’r metro; ac 3. Yn cydnabod
y bydd y cyd-destun ariannol presennol, ynghyd â diffyg pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, yn golygu y bydd y prosiect yn symud
yn ei flaen
bob yn dipyn ac y bydd yn galw
am ddull cydweithredol wedi’i gydgysylltu gan Lywodraeth Cymru. Gyda chefnogaeth: Julie James (Gorllewin Abertawe) Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4875 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ad-drefnu polisi Addysg Uwch i gryfhau safonau addysgu a gwella canlyniadau graddedigion; b) sefydlu Sefydliadau Addysg Uwch Cymru fel canolfannau rhagoriaeth ar gyfer ôl-raddedigion ac ymchwil; a c) rhoi blaenoriaeth i gydweithio gwirfoddol yn hytrach na gorfodi Sefydliadau Addysg Uwch i uno. Gyda chefnogaeth: Aled Roberts (Gogledd Cymru) Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4876 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn un Corff Amgylcheddol. 2. Yn credu na fu digon o graffu ar achos busnes Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r uno arfaethedig. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Gohirio’r uno arfaethedig nes ei fod wedi bod yn destun craffu cyhoeddus llawn; a b) Rhoi sylw i bryderon difrifol y sector coedwigaeth ynglyn â chynnwys Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn yr uno. Gellir gweld achos busnes Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn: Cyflwynwyd y
gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad trwyadl i achos busnes Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn Un Corff Amgylcheddol. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4876 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn un Corff Amgylcheddol. 2. Yn credu na fu digon o graffu ar achos busnes Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r uno arfaethedig. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Gohirio’r uno arfaethedig nes ei fod wedi bod yn destun craffu cyhoeddus llawn; a b) Rhoi sylw i bryderon difrifol y sector coedwigaeth ynglyn â chynnwys Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn yr uno.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad trwyadl i achos busnes Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn Un Corff Amgylcheddol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:: NDM4876 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu penderfyniad
y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad trwyadl i achos busnes Llywodraeth
Cymru ynghylch y cynnig i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad
Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth
Cymru yn Un Corff Amgylcheddol.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4874 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU, yn dilyn cyhoeddi Datganiad yr Hydref, ynglyn â’i methiant i ddarparu ysgogiad economaidd digonol i Gymru wrth ymateb i’r sefyllfa economaidd bresennol, ac ynglyn â’i chynigion i gyflwyno tâl sector cyhoeddus rhanbarthol; a b) mynd ati ar frys i osod ei chynlluniau ei hun ar gyfer ysgogiad economaidd, a ddylai gynnwys prosiectau seilwaith, cymorth i fusnesau a chymorth i bobl ifanc sy’n ddi-waith. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu is-bwynt 1a) a rhoi yn ei le: Parhau i weithio gyda Lywodraeth y DU, ar ôl cyhoeddi Datganiad yr Hydref sy’n cynnwys mesurau ar gyfer ysgogiad economaidd, ar ei chynigion i ystyried tâl sector cyhoeddus rhanbarthol. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys is-bwynt b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Cynnwys goblygiadau cymharol tâl datganoledig mewn unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch tâl sector cyhoeddus rhanbarthol. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ysgogiad economaidd a fydd yn deillio o’r £216 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd fel rhan o Ddatganiad Hydref Llywodraeth y DU. Gellir gweld Datganiad yr Hydref drwy ddilyn yr hyperddolen a ganlyn: http://cdn.hm-treasury.gov.uk/autumn_statement.pdf Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu cyhoeddi’r Contract Ieuenctid a fydd yn darparu help i bobl ifanc ddi-waith. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4874 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU, yn dilyn cyhoeddi Datganiad yr Hydref, ynglyn â’i methiant i ddarparu ysgogiad economaidd digonol i Gymru wrth ymateb i’r sefyllfa economaidd bresennol, ac ynglyn â’i chynigion i gyflwyno tâl sector cyhoeddus rhanbarthol; a b) mynd ati ar frys i osod ei chynlluniau ei hun ar gyfer ysgogiad economaidd, a ddylai gynnwys prosiectau seilwaith, cymorth i fusnesau a chymorth i bobl ifanc sy’n ddi-waith.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4877 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a. pwysigrwydd manwerthu i economi Cymru; b. gwerth cymdeithasol stryd fawr fywiog i gymunedau lleol; ac 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod y stryd fawr yng Nghymru drwy: a. Rhoi sylw i anghenion penodol manwerthwyr yn ei hadolygiad o ardrethi busnes a chynlluniau rhyddhad; b. datblygu arweiniad ar gyfer awdurdodau lleol a fydd yn cynnwys cyngor ynghylch yr arfer gorau ar gyfer rheoli canol trefi; ac c. cydnabod effaith datblygiadau ar gyrion trefi ar y stryd fawr yn ei hadolygiad o’r system gynllunio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2 a). Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
2: cyhoeddi strategaeth manwerthu. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4877 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a. pwysigrwydd manwerthu i economi Cymru; b. gwerth cymdeithasol stryd fawr fywiog i gymunedau lleol; ac 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod y stryd fawr yng Nghymru drwy: a. Rhoi sylw i anghenion penodol manwerthwyr yn ei hadolygiad o ardrethi busnes a chynlluniau rhyddhad; b. datblygu arweiniad ar gyfer awdurdodau lleol a fydd yn cynnwys cyngor ynghylch yr arfer gorau ar gyfer rheoli canol trefi; ac c. cydnabod effaith datblygiadau ar gyrion trefi ar y stryd fawr yn ei hadolygiad o’r system gynllunio.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2 a). Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: cyhoeddi strategaeth manwerthu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4877 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a. pwysigrwydd manwerthu i economi Cymru; b. gwerth cymdeithasol stryd fawr fywiog i gymunedau lleol; ac 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod y stryd fawr yng Nghymru drwy: a. datblygu arweiniad ar gyfer awdurdodau lleol a fydd yn cynnwys cyngor ynghylch yr arfer gorau ar gyfer rheoli canol trefi; ac b. cydnabod effaith datblygiadau ar gyrion trefi ar y stryd fawr yn ei hadolygiad o’r system gynllunio.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4873 Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth): Cyfraddau credyd a budd y cyhoedd – a ddylai cyfraddau benthyciadau tymor byr gael eu rheoleiddio |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |