Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 3
gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.19 Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5831
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r rhan bwysig y mae gwasanaethau awdurdodau
lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o wasanaethau cyhoeddus. 2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi
gwrthod yn barhaus i ddarparu cymorth i awdurdodau lleol er mwyn atal cynnydd
mewn biliau treth gyngor; 3. Yn nodi mai'r band treth gyngor D cyfartalog yng
Nghymru ar gyfer 2015-16 yw £1,328 a bod teuluoedd ar eu colled o £546 yn ystod
y pedwerydd Cynulliad o ganlyniad i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod
rhewi'r dreth gyngor; 4. Yn credu y bydd pobl yng Nghymru yn amau'r gwerth am
arian a ddarperir gan lawer o wasanaethau awdurdodau lleol yn dilyn y cynnydd
hwn yn y dreth gyngor; a 5. Yn credu ymhellach bod angen gwneud mwy yng Nghymru i
fanteisio ar y rôl y gall mudiadau trydydd sector ei chwarae yn y broses o
ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Dileu pob dim ar
ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at y
goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdod lleol yn y dyfodol os bydd
Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder. Yn credu y dylai
awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu
hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn gwasanaethau a swyddi lleol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.12 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r rhan bwysig
y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o
wasanaethau cyhoeddus. 2. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yn barhaus i ddarparu cymorth i
awdurdodau lleol er mwyn atal cynnydd mewn biliau treth gyngor; 3. Yn nodi mai'r band
treth gyngor D cyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2015-16 yw £1,328 a bod
teuluoedd ar eu colled o £546 yn ystod y pedwerydd Cynulliad o ganlyniad i'r
ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhewi'r dreth gyngor; 4. Yn credu y bydd pobl
yng Nghymru yn amau'r gwerth am arian a ddarperir gan lawer o wasanaethau
awdurdodau lleol yn dilyn y cynnydd hwn yn y dreth gyngor; a 5. Yn credu ymhellach
bod angen gwneud mwy yng Nghymru i fanteisio ar y rôl y gall mudiadau trydydd
sector ei chwarae yn y broses o ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol.
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin
Jones (Ceredigion) Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau
awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar
drywydd polisïau llymder. Yn credu y dylai awdurdodau lleol a chymunedau gael y
rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn
gwasanaethau a swyddi lleol. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
Derbyniwyd Gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r rhan bwysig
y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o
wasanaethau cyhoeddus. 2. Yn gresynu at y
goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd
Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder. 3. Yn credu y dylai
awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu
hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn gwasanaethau a swyddi lleol.
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion NDM5828 William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion' a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2015. Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2015. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.06 NDM5828 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Deisebau ar y ddeiseb, 'Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion' a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2015. Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2015.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5830
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi na chyrhaeddwyd y targedau ar gyfer amser
atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010; 2. Yn gresynu at effaith andwyol bosibl amseroedd aros
hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd bywyd; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu cynllun ac
amserlen ar gyfer cyrraedd ei thargedau amser atgyfeirio am driniaeth. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3
newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod
pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i leihau amseroedd aros. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod ar
ddiwedd pwynt 3: 'a sicrhau bod
cleifion yn cael eu gweld mewn modd amserol drwy gydol eu gofal.' Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.05 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5830 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi na chyrhaeddwyd
y targedau ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010; 2. Yn gresynu at effaith
andwyol bosibl amseroedd aros hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd
bywyd; a 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu cynllun ac amserlen ar gyfer cyrraedd ei thargedau amser
atgyfeirio am driniaeth.
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin
Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i
leihau amseroedd aros. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
Derbyniwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 3: 'a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mewn modd
amserol drwy gydol eu gofal.'
Derbyniwyd Gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5830 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi na chyrhaeddwyd
y targedau ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010; 2. Yn gresynu at effaith
andwyol bosibl amseroedd aros hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd
bywyd; a 3. Yn cydnabod
pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i leihau amseroedd aros. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu cynllun ac amserlen ar gyfer cyrraedd ei thargedau amser
atgyfeirio am driniaeth a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mewn modd
amserol drwy gydol eu gofal.
Gwrthodwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.02 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5829
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Gofal lliniarol yng
Nghymru: edrych y tu hwnt i 2016. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.06 NDM5829 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Gofal lliniarol yng Nghymru: edrych y tu hwnt i 2016. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |