Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Medi 2015 i'w hateb ar 30 Medi 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffyg triniaeth sydd ar gael i bobl sydd ag anhwylder straen wedi trawma o ganlyniad i gael eu cam-drin yn rhywiol pan oeddent yn blant? OAQ(4)0624(HSS)

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am driniaeth canser yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0622(HSS)

3. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am driniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ(4)0631(HSS)

4. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllunio ar gyfer gweithlu'r dyfodol o fewn y gwasanaeth iechyd? OAQ(4)0638(HSS)W

5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r heriau sy'n wynebu'r broses o recriwtio nyrsys yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0637(HSS)

6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido meddygfeydd teulu? OAQ(4)0628(HSS)W

7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am wasanaethau menywod a phlant? OAQ(4)0639(HSS)W

8. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yng Nghymru? OAQ(4)0635(HSS)

9. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am atal HIV yn y GIG yng Nghymru? OAQ(4)0626(HSS)

10. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros am driniaeth canser? OAQ(4)0629(HSS)

11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0623(HSS)

12. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i gyffuriau canser yng Nghymru? OAQ(4)0627(HSS)

13. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd prosiect blaen tŷ newydd Ysbyty Tywysog Philip yn gwella gwasanaethau meddygol brys yn Llanelli? OAQ(4)0634(HSS)

14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau rhaglen Future Fit y GIG i drigolion Powys? OAQ(4)0636(HSS)

15. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer menywod a gaiff eu hatgyfeirio at ofal eilaidd oherwydd yr amheuir bod canser y fron ganddynt? OAQ(4)0625(HSS)

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyfradd absenoldeb mewn ysgolion yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0625(ESK)

2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog plant i gymryd rhan mewn clybiau ar ôl ysgol i wella eu sgiliau sylfaenol? OAQ(4)0624(ESK)

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd cyllid Her Ysgolion Cymru ar gyfer consortia rhanbarthol yn cael ei wario? OAQ(4)0629(ESK)

5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl y bydd y rhan gyntaf o adolygiad yr Athro Diamond o gyllido addysg uwch yn cael ei chyhoeddi? OAQ(4)0632(ESK)W

5. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fonitro effeithiolrwydd consortia addysg lleol? OAQ(4)0627(ESK)

6. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru? OAQ(4)0626(ESK)

7. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ysgolion yn Nelyn i'w helpu i gynyddu cyrhaeddiad, yn enwedig ymysg plant o gefndiroedd difreintiedig? OAQ(4)0631(ESK)

8. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa strategaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu hyfforddiant penaethiaid ysgolion? OAQ(4)0619(ESK)

9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn gallu cefnogi disgyblion sydd â phroblemau iechyd meddwl? OAQ(4)0616(ESK)

10. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio penaethiaid ysgolion? OAQ(4)0622(ESK)

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau ar gyfer PISA 2015? OAQ(4)0628(ESK)

12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu adeiladau ysgol newydd ym Mhowys? OAQ(4)0617(ESK)

13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen Ysgolion y 21ain Ganrif yn Sir Fynwy? OAQ(4)0623(ESK)

14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo hyfforddiant galwedigaethol mewn colegau addysg bellach? OAQ(4)0618(ESK)

15. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar wasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol? OAQ(4)0614(ESK)R