Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.14
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5820
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i
ddarparu cymorth digonol i fusnesau Cymru. 2. Yn mynegi pryder dwfn dros golli swyddi mewn busnesau sy'n
derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. 3. Yn credu bod y broses o ddiwydrwydd dyladwy a
ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru cyn darparu cymorth grant ar gyfer busnesau
wedi bod yn annigonol. 4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i wario arian
cyhoeddus yn effeithiol i gefnogi busnesau Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad
cynhwysfawr o'i methiannau o ran cymorth busnes, gan gynnwys ail-flaenoriaethu
er mwyn darparu mwy o gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Dileu pob dim ar
ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi anghenion ariannu busnesau Cymru drwy sefydlu banc
datblygu busnes i Gymru. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â baich ardrethi busnes drwy ymestyn y
cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau cyfleoedd masnach newydd i fusnesau yng Nghymru drwy
weithredu menter masnach tramor Plaid Cymru. [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn
cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod ar
ddiwedd pwynt 5: ', gwell mynediad
at gyllid a galluogi cymorth a chyngor busnes o ansawdd uchel' Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5820 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth
digonol i fusnesau Cymru. 2. Yn mynegi pryder dwfn dros golli swyddi mewn busnesau sy'n derbyn
cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. 3. Yn credu bod y broses o ddiwydrwydd dyladwy a ddefnyddir gan
Lywodraeth Cymru cyn darparu cymorth grant ar gyfer busnesau wedi bod yn
annigonol. 4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i wario arian cyhoeddus yn
effeithiol i gefnogi busnesau Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o'i
methiannau o ran cymorth busnes, gan gynnwys ail-flaenoriaethu er mwyn darparu
mwy o gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a
rhoi yn ei le: 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gefnogi anghenion ariannu busnesau Cymru drwy sefydlu banc datblygu busnes i
Gymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i fynd i'r afael â baich ardrethi busnes drwy ymestyn y cynllun rhyddhad
ardrethi i fusnesau bach. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau cyfleoedd masnach newydd i fusnesau yng Nghymru drwy weithredu menter
masnach tramor Plaid Cymru.
Gwrthodwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 5: ', gwell mynediad at gyllid a galluogi
cymorth a chyngor busnes o ansawdd uchel' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd Gwelliant 2. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod
y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd
y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5821
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru dro
ar ôl tro i gyrraedd ei thargedau allweddol ei hun sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau
cyhoeddus allweddol; a'r canlyniadau niweidiol a gaiff hyn ar bobl Cymru. 2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos
tryloywder llwyr o ran mesur perfformiad gwasanaethau cyhoeddus. 3. Yn ofni bod symud, ailddiffinio neu addasu targedau
sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhwystro pobl Cymru rhag
dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ddigonol, ac yn ystumio'r craffu hir-dymor
ar ei methiant parhaus. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Mewnosod ar
ddiwedd pwynt 2: 'gan gynnwys
sicrhau bod data yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi mewn modd sy'n sicrhau y gellir
cymharu perfformiad â chenhedloedd eraill' Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.05 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5821 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i
gyrraedd ei thargedau allweddol ei hun sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau
cyhoeddus allweddol; a'r canlyniadau niweidiol a gaiff hyn ar bobl Cymru. 2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos tryloywder llwyr o
ran mesur perfformiad gwasanaethau cyhoeddus. 3. Yn ofni bod symud, ailddiffinio neu addasu targedau sy'n gysylltiedig
â darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhwystro pobl Cymru rhag dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif yn ddigonol, ac yn ystumio'r craffu hir-dymor ar ei methiant
parhaus.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2: 'gan gynnwys sicrhau bod data
yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi mewn modd sy'n sicrhau y gellir cymharu
perfformiad â chenhedloedd eraill' Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
Derbyniwyd Gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
1. Yn gresynu at fethiant
parhaus Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i gyrraedd ei thargedau allweddol ei hun
sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol; a'r canlyniadau
niweidiol a gaiff hyn ar bobl Cymru. 2. Yn credu bod yn rhaid i
Lywodraeth Cymru ddangos tryloywder llwyr o ran mesur perfformiad gwasanaethau
cyhoeddus gan gynnwys sicrhau bod data yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi mewn modd
sy'n sicrhau y gellir cymharu perfformiad â chenhedloedd eraill. 3. Yn ofni bod symud, ailddiffinio neu addasu
targedau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhwystro pobl
Cymru rhag dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ddigonol, ac yn ystumio'r craffu
hir-dymor ar ei methiant parhaus.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5822
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd
yn y grant bloc sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn
cael ei fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
pwysigrwydd buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith
sylweddol ar ofal cleifion a recriwtio a chadw staff. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn
flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y
dyfodol. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth
ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.58 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5822 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant bloc
sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei
fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd
buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal
cleifion a recriwtio a chadw staff.
Derbyniwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar gyfer
buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Derbyniwyd Gwelliant 2. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi
yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Derbyniwyd Gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5822 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant
bloc sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei
fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. 2. Yn cydnabod pwysigrwydd
buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal
cleifion a recriwtio a chadw staff. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar
gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer
buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.45 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5819
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ffracio: Gweithredu moratoriwm ar gyfer Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.50 NDM5819 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ffracio:
Gweithredu moratoriwm ar gyfer Cymru |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |