R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yn dilyn ymateb Llywodraeth y DU i argyfwng ffoaduriaid Syria? OAQ(4)0597(PS)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol yn Sir Benfro? OAQ(4)0598(PS)
3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at gyfiawnder yn ardal Rhondda Cynon Taf? OAQ(4)0601(PS)
4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn ne ddwyrain Cymru? OAQ(4)0606(PS)
5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):Pa gymorth ychwanegol y bydd y Gweinidog yn ei ddarparu i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yng ngoleuni argyfwng ffoaduriaid Syria? OAQ(4)0610(PS)
6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion Comisiwn Williams? OAQ(4)0603(PS)
7. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i fentrau gefeillio trefi? OAQ(4)0608(PS)
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y prif gynghorwyr yng Nghymru? OAQ(4)0596(PS)R
9. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0599(PS)
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fentrau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn y cartref? OAQ(4)0612(PS)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0607(PS)
12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch llywodraethu gwasanaethau tân ac achub yn y dyfodol? OAQ(4)0611(PS)
13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar dderbyn ffoaduriaid o Syria? OAQ(4)0602(PS)
14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol yng Nghanol De Cymru ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0604(PS)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer helpu cyn-filwyr y Lluoedd Arfog yng Nghymru? OAQ(4)0600(PS)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i Ddwyrain De Cymru wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth? OAQ(4)0592(FIN)
2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch darparu cyllid ychwanegol i gyllidebau adrannol yn sgil cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar dderbyn ffoaduriaid o Syria? OAQ(4)0593(FIN)
3. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y berthynas rhwng polisi caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru a darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(4)0594(FIN)
4. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei chynlluniau gwariant? OAQ(4)0601(FIN)
5. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebu effeithiol? OAQ(4)0595(FIN)
6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi caffael Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0590(FIN)
7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyllid ychwanegol y bydd y Gweinidog yn ei ddyrannu i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol i gefnogi ynni adnewyddadwy? OAQ(4)0599(FIN)
8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid yr UE ar gyfer prosiectau ynni tonnau a'r llanw? OAQ(4)0604(FIN)
9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi eu cynnal gyda Llywodraeth y DU parthed cyllido digonol ar gyfer derbyn ffoaduriaid, yn sgil yr argyfwng diweddar? OAQ(4)0600(FIN)W
10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio cyllid ychwanegol a ddaw i Gymru yn sgil cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU? OAQ(4)0603(FIN)W
11. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid a ddyrannwyd i’r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0602(FIN)W
12. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu swyddogaeth Trysorlys Cymru? OAQ(4)0597(FIN)
13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y polisïau caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0591(FIN)
14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sicrhau gwerth am arian ar draws cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0598(FIN)
15. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid i'r portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi? OAQ(4)0596(FIN)