Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Penderfyniad:

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Penderfyniad:

Gofynnwyd y 7 cwestiwn.

(30 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Penderfyniad:

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1, 3 a 7 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 1, 3, 4, 5, 7 a 10 eu hateb gan Rhodri Glyn Thomas. Cafodd cwestiwn 2 ei ateb gan Angela Burns. Cafodd cwestiwn 6 ei ateb gan Peter Black. Cafodd cwestiwn 9 ei ateb gan Sandy Mewies. Tynnwyd cwestiynau 8 ac 11 yn ôl.

(15 munud)

4.

Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso Aled Roberts

NNDM4724 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gweithredu o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

1. Yn nodi bod Aled Roberts, pan gafodd ei ethol yn yr etholiad a gynhaliwyd ar 5 Mai 2011 fel Aelod Cynulliad dros ranbarth etholiadol Gogledd Cymru, yn aelod o Dribiwnlys Prisio Cymru, a’i fod felly wedi ei anghymwyso rhag bod yn Aelod Cynulliad o dan adran 16(1) o’r Ddeddf ac Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010;

2. Hefyd yn nodi bod y sail ar gyfer anghymwyso nawr wedi’i diddymu;

3. Yn cytuno ei bod yn iawn fod y Cynulliad yn arfer ei bwerau o dan adran 17(3); a

4. Felly yn penderfynu bod gwaharddiad Aled Roberts rhag bod yn Aelod Cynulliad, ar sail yr hyn a nodir ym mharagraff 1, yn cael ei ddiystyru.

Dogfennau ategol:

Adroddiad i’r Llywydd gan Gerard Elias QC, 30 Mehefin 2011 - Cyf: John Leslie Dixon ac Aled Rhys Roberts

Cyngor i’r Llywydd, gan Keith Bush, Prif Gynghorydd Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 5 Gorffennaf 2011

 

Penderfyniad:

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

3

20

53

Derbyniwyd y cynnig.

 

(15 munud)

5.

Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso John Dixon - TYNNWYD YN ÔL

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4778 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau potensial llawn Cymdeithas Fawr Cymru, gan gydnabod bod y Wladwriaeth a Chymdeithas yn wahanol a bod angen y naill a’r llall arnom.

 

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio .

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd y cynnig.

 

 

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4779 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Sicrhau bod y system gynllunio yn rhoi cyfran i gymunedau mewn datblygu economaidd a chymdeithasol;

b) Diogelu gwasanaethau cyhoeddus mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol gwledig;

c) Diogelu dyfodol ffermydd teulu; a

d) Rhoi'r cyfle i gymunedau reoli asedau cymunedol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt c):

a gwella llwyddiant ffermio teuluol drwy ddiwygio Glastir a diwygio cyfyngiadau cynllunio ar ffermwyr sy’n dymuno newid adeiladau segur ar eu tir yn gyfleusterau masnachol.’

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Grymuso cymunedau drwy gyflwyno Bil Hawliau Cymunedol

Amddiffyn cymunedau lleol drwy gefnogi busnesau lleol a mynnu bod asesiad effaith yn cael ei gynnal ar gyfer datblygiadau manwerthu ar gyrion trefi yn ystod y broses gynllunio.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd taliadau cymhorthdal y Polisi Amaethyddol Cyffredin i ffermydd teulu yng Nghymru yn ogystal â'r economi wledig ehangach, a drwy wneud hynny, parhau â dull gweithredu Llywodraeth flaenorol Cymru drwy roi sylwadau cryf i Lywodraeth y DU i wrthdroi ei galwad am "doriad sylweddol iawn i'r Gyllideb Polisi Amaethyddol Cyffredin yn ystod y Fframwaith Ariannol nesaf".  

 

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4779 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Sicrhau bod y system gynllunio yn rhoi cyfran i gymunedau mewn datblygu economaidd a chymdeithasol;

b) Diogelu gwasanaethau cyhoeddus mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol gwledig;

c) Diogelu dyfodol ffermydd teulu; a

d) Rhoi'r cyfle i gymunedau reoli asedau cymunedol. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru

NDM4777 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cyfrifoldeb dros benderfynu ar brosiectau ynni yng Nghymru sydd dros 50 megawatt ac unrhyw seilwaith cysylltiedig yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gyflwyno’r achos gerbron Llywodraeth y DU dros ddatganoli pwer dros brosiectau ynni hyd at 100MW; ac

2. Yn gresynu wrth y dryswch a fu yn sgil Datganiad Ysgrifenedig y Prif Weinidog ar 17 Mehefin ac yn credu mai dim ond drwy gynnal adolygiad cyhoeddus trwyadl o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005) y bydd modd rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol a rhoi hwb i hyder y sector ynni adnewyddadwy.

Gellir gweld datganiad y Prif Weinidog drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/110617plan/?skip=1&lang=cy

Gellir gweld TAN8 drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan8/?skip=1&lang=cy

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r holl dystiolaeth ac adroddiadau y mae wedi’u cynhyrchu yng nghyswllt datganoli prosiectau ynni dros 50MW.

 

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4777 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cyfrifoldeb dros benderfynu ar brosiectau ynni yng Nghymru sydd dros 50 megawatt ac unrhyw seilwaith cysylltiedig yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

12

55

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyfnod pleidleisio

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: