Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Penderfyniad:

Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf.  Atebwyd cwestiwn 8 a chwestiwn 10 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Penderfyniad:

Gofynnwyd y 15 cwestiwn.

(5 munud)

3.

Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried offerynnau statudol.

NDM4733 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Offerynnau Statudol i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac i ystyried unrhyw faterion eraill yn ymwneud â deddfwriaeth, ar wahân i’r swyddogaethau angenrheidiol yn ôl Rheol Sefydlog 26, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

4.

Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Offerynnau Statudol

NNDM4738 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Julie James (Llafur), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig), Simon Thomas (Plaid Cymru) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Offerynnau Statudol; a

2. David Melding yn Gadeirydd y Pwyllgor Offerynnau Statudol.

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

5.

Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried deisebau a gyflwynir i'r Cynulliad

NDM4732 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 23.

 

 

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

6.

Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Deisebau

NNDM4737 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Christine Chapman (Llafur), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Bethan Jenkins (Plaid Cymru) a William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Deisebau; a

2. Christine Chapman yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4735 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn adroddiad y Comisiynydd Pobl HŷnGofal gydag Urddas?”

 

Mae copi o Gofal gydag Urddas ar gael yn:

http://www.olderpeoplewales.com/wl/Reviews/dignity-and-respect/Hospital-review.aspx

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru

NDM4734 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ar ôltymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad’, ychwanegu ‘a rhoi cyfle i'r Cynulliad drafod y rhaglen’.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, gan gynnwys manylion canlyniadau y gellir eu mesur, er mwyn dangos y cynnydd a wneir wrth roi ei rhaglen gyflenwi ar waith.

 

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM4734 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

1

5

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

(60 munud)

9.

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM4736 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys:

(a) Cyflwyno Parthau Menter, a

(b) Adeiladu ar gyhoeddiadCynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwydrwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol.

 

Mae copi o ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwyar gael drwy’r ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/planning/planningresearch/publishedresearch/suseconrenewal/?skip=1&lang=cy

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 1:

ceisio datganoli pwerau dros dreth gorfforaeth ac amrywio treth er mwyn galluogi’r llywodraeth i fynd i’r afael â phroblemau strwythurol economi Cymru;

parhau i weithredu Rhaglen Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd.

Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newyddyn:

http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/help/economicrenewal/programmepapers/anewdirection/?lang=cy

Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog Llywodraeth Cymru i neilltuo symiau canlyniadol Fformiwla Barnett, a fydd yn deillio o greu Parthau Menter yn Lloegr, i’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am ddyfodol Rhaglen Adnewyddu’r Economi.

Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newyddyn:

http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/help/economicrenewal/programmepapers/anewdirection/?lang=cy

 

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM4736 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys:

(a) Cyflwyno Parthau Menter, a

(b) Adeiladu ar gyhoeddiadCynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwydrwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

22

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

10.

Cyfnod pleidleisio

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: