Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1
yn ôl. Atebwyd cwestiynau 3, 5 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch newid yn yr hinsawdd - tynnwyd yn ôl |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar adolygiad Donaldson o'r cwricwlwm a threfniadau asesu: y camau nesaf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Penderfyniad: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 30 mewn perthynas â hysbysu Biliau Senedd y DU NDM5707
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU'
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2015; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 30,
fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.08 NDM5707 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn
ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog
30 – Hysbysu mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU' a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 24 Chwefror 2015; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 30, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 NDM5709
David Rees (Aberafan) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2015. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.08 NDM5709 David Rees (Aberafan) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl
deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
15 Ionawr 2015. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015. The motion was agreed in accordance with
Standing Order 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5711
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi haneru'r diffyg
ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros; 2. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng
Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd yn tyfu'n gyflymaf yn
y G7 yn 2014; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun
economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r
amodau ar gyfer twf yn y sector preifat i greu swyddi a ffyniant. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 1
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng
nghyllideb y DU erbyn 2015 a chynnal ei statws credyd AAA; Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y
ffaith bod mesurau llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn
termau real i gyllideb Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a
chymdeithasol ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny. Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 2, ar
ôl '2014' ychwanegu ', er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith'. Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn croesawu'r
effaith gadarnhaol y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth
incwm i £10,500 yn ei chael ar economi Cymru, gan arwain at doriad o £800 yn
nhreth incwm 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru, gan arbed 153,000 o bobl rhag
talu treth incwm yn gyfan gwbl. Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio
ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad
hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru er mwyn adeiladu
economi cryfach a thecach i Gymru. [os derbynnir gwelliant 5, bydd gwelliant 6 yn
cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 6 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 3, ar
ôl 'ffyniant' ychwanegu 'a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o
tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf
sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus'. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.44 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi
haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros; 2. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o
bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd
yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor
Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y
sector preifat i greu swyddi a ffyniant.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi
methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015
a chynnal ei statws credyd AAA. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith bod mesurau
llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb
Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a
theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Ym mhwynt 2, ar ôl '2014' ychwanegu
', er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith
contractau dim oriau ar dlodi ymysg pobl
sydd mewn gwaith'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y
mae penderfyniad Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth incwm i £10,500 yn ei
chael ar economi Cymru, gan arwain at doriad o £800 yn nhreth incwm 1.2 miliwn
o weithwyr yng Nghymru, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan
gwbl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a
mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i
fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru er mwyn adeiladu economi cryfach
a thecach i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 – Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Ym mhwynt 3, ar ôl 'ffyniant'
ychwanegu 'a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o tua 30% yn y
Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled
Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi
methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015
a chynnal ei statws credyd AAA. 2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi
haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros; 3. Yn gresynu at y ffaith bod mesurau
llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb
Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a
theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny. 4. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o
bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd
yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014, er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel
diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith; 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor
Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y
sector preifat i greu swyddi a ffyniant a nodi bod Llywodraeth Cymru, er
gwaethaf toriadau o tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud
buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r
gwasanaethau cyhoeddus.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5710
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu na ddylai lefel Cymru o hunanlywodraeth fod
yn is nag unrhyw ran arall o'r DU; 2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu
â chyflawni cydraddoldeb o ran pwerau a pharch i Gymru yn ystod ei daliadaeth; 3. Yn galw am gydraddoldeb llawn o ran pwerau a chyllid
ar gyfer Cymru a'r Alban; 4. Yn galw am drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfansoddiad
Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Fil ymreolaeth newydd; 5. Yn nodi y dylai'r Bil ymreolaeth gynnwys datganoli'r
cyfrifoldeb dros adnoddau naturiol Cymru yn llawn; 6. Yn galw ymhellach am greu awdurdodaeth gyfreithiol i
Gymru a datganoli plismona, carchardai, llysoedd a chyfiawnder troseddol; a 7. Yn credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y
grym i gefnogi'r rhai sydd angen diogelwch cymdeithasol drwy bwerau cynyddol
mewn perthynas â budd-daliadau lles fel yr argymhellodd y Comisiwn Smith i'r
Alban. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu popeth a
rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu'r
camau sylweddol a gymerwyd ymlaen mewn perthynas â'r setliad datganoli i Gymru
ers 2010, gan gynnwys: a) refferendwm ar
bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; b) sefydlu
Comisiwn Silk; c) cyflwyno Deddf
Cymru 2014, sydd wedi datganoli treth stamp, trethi busnes a threth tirlenwi i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru a darparu ar gyfer refferendwm ar a ddylid
datganoli elfen o dreth incwm. 2. Yn croesawu'r
cyhoeddiad Dydd Gŵyl
Dewi sy'n cynnig: a) datganoli'r
cyfrifoldeb dros bob caniatâd cynllunio i ddatblygiadau prosiectau ynni hyd at
350 MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru; b) datganoli
terfynau cyflymder, rheoliadau bws a thacsi, a swyddogaethau'r Comisiynydd
Traffig; c) cyflwyno model
cadw pwerau; d) datganoli
datblygu porthladdoedd; e) datganoli
pwerau yn ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol; f) datganoli
cymhwysedd dros ddyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer y sector cyhoeddus
datganoledig; a g) datganoli
trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru 3. Yn credu bod
yn rhaid inni fynd ymhellach i sicrhau ymreolaeth i Gymru ac yn galw am: a) datganoli'n
llawn y cynigion Silk Rhan 1 sy'n weddill ar bwerau ariannol i Gymru; b) datganoli'n
llawn y cynigion Silk Rhan 2 sy'n weddill ar bwerau deddfwriaethol i Gymru; c) datganoli
cyllid Network Rail mewn perthynas â rhwydwaith Cymru; d) datganoli
terfynau yfed a gyrru; e) datganoli'r
cyfrifoldeb dros ariannu gwariant cyhoeddus ar S4C i'r Cynulliad; f) datganoli
cyfiawnder ieuenctid, plismona a phwerau cyfiawnder eraill yn y tymor hwy; g) trosglwyddo
pwerau i reoli asedau economaidd Ystâd y Goron; h) trosglwyddo
rheolaeth dros ystod o fuddion ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a phobl anabl; i) datganoli
pwerau i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau cenedlaethol a lleol
Cymru; j) rhoi'r hawl i
Lywodraeth Cymru osod ei gwyliau banc ei hun; a k) rhoi'r pŵer i Gomisiynydd Plant Cymru archwilio
materion sy'n effeithio ar blant yng Nghymru ond nad ydynt o fewn rheolaeth
Llywodraeth Cymru. 4. Yn galw am
sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer
undeb newydd. Mae Deddf Cymru
2014 ar gael yn: www.legislation.gov.uk/mwa/2010/4/contents
(Saesneg yn unig) Mae adroddiadau
Silk Rhan 1 a Rhan 2 ar gael yn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3
yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) 1. Yn nodi cynnig
y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014, sy'n
amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru; 2. Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein cynigion ar
gyfer camau nesaf datganoli; 3. Yn cydnabod
bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd arnynt gan y
Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i Gymru, a phwerau
newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau; 4. Yn croesawu'r
ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad cyllido
tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni cais
unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o atal
rhagor o gydgyfeirio. 5. Yn mynegi siom
ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a argymhellwyd gan
Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a 6. Yn galw ar
Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn
Etholiad Cyffredinol y DU. Mae'r papur
gorchymyn ar gael yn: Dogfen
Ategol (Saesneg yn unig) [os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn
cael ei ddad-ddethol] 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Dileu pob dim a
rhoi yn ei le: Yn croesawu'r
newidiadau cyfansoddiadol sylweddol sydd wedi digwydd i setliad datganoli Cymru
ers 2010 ac yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i anrhydeddu y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi trawsbleidiol a gyhoeddwyd yn
ddiweddar gan Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog y DU. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.45 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5710 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
credu na ddylai lefel Cymru o hunanlywodraeth fod yn is nag unrhyw ran arall
o'r DU; 2. Yn
gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni cydraddoldeb o
ran pwerau a pharch i Gymru yn ystod ei daliadaeth; 3. Yn
galw am gydraddoldeb llawn o ran pwerau a chyllid ar gyfer Cymru a'r Alban; 4. Yn
galw am drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfansoddiad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru drwy Fil ymreolaeth newydd; 5. Yn
nodi y dylai'r Bil ymreolaeth gynnwys datganoli'r cyfrifoldeb dros adnoddau
naturiol Cymru yn llawn; 6. Yn
galw ymhellach am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a datganoli plismona,
carchardai, llysoedd a chyfiawnder troseddol; a 7. Yn credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y grym i gefnogi'r
rhai sydd angen diogelwch cymdeithasol drwy bwerau cynyddol mewn perthynas â
budd-daliadau lles fel yr argymhellodd y Comisiwn Smith i'r Alban.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn
croesawu'r camau sylweddol a gymerwyd ymlaen mewn perthynas â'r setliad
datganoli i Gymru ers 2010, gan gynnwys: a)
refferendwm ar bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; b)
sefydlu Comisiwn Silk; c)
cyflwyno Deddf Cymru 2014, sydd wedi datganoli treth stamp, trethi busnes a
threth tirlenwi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a darparu ar gyfer refferendwm
ar a ddylid datganoli elfen o dreth incwm. 2. Yn
croesawu'r cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi sy'n cynnig: a)
datganoli'r cyfrifoldeb dros bob caniatâd cynllunio i ddatblygiadau prosiectau
ynni hyd at 350 MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru; b)
datganoli terfynau cyflymder, rheoliadau bws a thacsi, a swyddogaethau'r
Comisiynydd Traffig; c)
cyflwyno model cadw pwerau; d)
datganoli datblygu porthladdoedd; e)
datganoli pwerau yn ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth
leol; f)
datganoli cymhwysedd dros ddyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer y sector
cyhoeddus datganoledig; a g)
datganoli trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru 3. Yn
credu bod yn rhaid inni fynd ymhellach i sicrhau ymreolaeth i Gymru ac yn galw
am: a)
datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 1 sy'n weddill ar bwerau ariannol i
Gymru; b)
datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 2 sy'n weddill ar bwerau deddfwriaethol
i Gymru; c)
datganoli cyllid Network Rail mewn perthynas â rhwydwaith Cymru; d)
datganoli terfynau yfed a gyrru; e)
datganoli'r cyfrifoldeb dros ariannu gwariant cyhoeddus ar S4C i'r Cynulliad; f)
datganoli cyfiawnder ieuenctid, plismona a phwerau cyfiawnder eraill yn y tymor
hwy; g)
trosglwyddo pwerau i reoli asedau economaidd Ystâd y Goron; h)
trosglwyddo rheolaeth dros ystod o fuddion ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a
phobl anabl; i)
datganoli pwerau i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau cenedlaethol
a lleol Cymru; j)
rhoi'r hawl i Lywodraeth Cymru osod ei gwyliau banc ei hun; a k)
rhoi'r pŵer i Gomisiynydd Plant Cymru archwilio materion sy'n effeithio ar
blant yng Nghymru ond nad ydynt o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru. 4. Yn
galw am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar
gyfer undeb newydd. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi
cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014,
sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru; 2. Yn
nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein
cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli; 3. Yn
cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd
arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i
Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau; 4. Yn
croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad
cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni
cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o
atal rhagor o gydgyfeirio. 5. Yn
mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a
argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a 6. Yn
galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn
Etholiad Cyffredinol y DU. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5710 Elin Jones (Ceredigion) 1. Yn nodi cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22
Hydref 2014, sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng
Nghymru; 2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n
amlinellu ein cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli; 3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y
cytunwyd arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw
pwerau i Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau
naturiol ac etholiadau; 4. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael
setliad cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i
fodloni cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull
penodedig o atal rhagor o gydgyfeirio. 5. Yn mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a
argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a 6. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n
weddill yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd Mick Antoniw
Bwynt o Drefn ynghylch sylw Leanne Wood yn y ddadl flaenorol bod rhywbeth a
ddywedodd ef yn ‘gelwydd’. Dyfarnodd y Llywydd fod Leanne Wood wedi esbonio’i
sylwadau’n ddigonol ar ôl ei ymryraeth flaenorol, ond y byddai’n darllen y
Cofnod ac yn dychwelyd at y mater pe byddai angen. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.38 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5708
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Cyfeillio - atal unigrwydd Defnyddio cyfeillio i atal pobl rhag bod yn unig ac yn
ynysig. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.43 NDM5708 Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe): Cyfeillio - atal unigrwydd Defnyddio cyfeillio i atal pobl rhag bod yn unig ac yn ynysig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |