Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl.

 

Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Pwynt o Drefn

Cododd Dafydd Elis-Thomas bwynt o drefn ynghylch yr eitem flaenorol, gan ofyn a oedd hi’n briodol i Aelod Cynulliad gyfeirio at gorff cyhoeddus ‘fel y ci sy’n troi’n ôl at ei gyfog’. Dyfarnodd y Dirprwy Lywydd nad ei le ef oedd cyfyngu ar ddadl frathog, ond nad oedd yn ymadrodd y byddai ef ei hun wedi’i ddefnyddio mewn lle cyhoeddus.

 

 

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch Atgyfeirio’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) i’r Goruchaf Lys

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.34

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cyflwyno'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.58

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Datganoli trethi yng Nghymru - Ymgynghoriad ar Dreth Trafodiad Tir

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn: Lle i’w alw’n gartref? Adolygiad o ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.26

 

(30 munud)

7.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - diwygiad mewn perthynas â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 6)

NDM5689 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy'n ymwneud â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 6)

yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Gellir cael copi o'r Bil Dadreoleiddio ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2013-14/deregulation.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfen Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.03

 

NDM5689 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy'n ymwneud â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu Difrifol - diwygiad mewn perthynas â chyfathrebu'n rhywiol â phlentyn (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3)

NDM5690 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â'r drosedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

 

Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfen Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.04

 

NDM5690 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â'r drosedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

 

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

 

9.

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015

NDM5693 Huw Lewis (Merthyr Tudful)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.

 

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.13

 

NDM5693 Huw Lewis (Merthyr Tudful)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10.

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015

NDM5694 Huw Lewis (Merthyr Tudful)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.

 

Dogfennau Ategol

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.13

 

NDM5694 Huw Lewis (Merthyr Tudful)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

11.

Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru)

NDM5691 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cynllunio (Cymru).

 

Gosodwyd Bil Cynllunio (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 6 Hydref 2015;

 

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bil Cynllunio (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2015.

 

Dogfennau Ategol

Bil Cynllunio (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.27

 

NDM5691 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cynllunio (Cymru).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

12.

Penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru)

NDM5692 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Cynllunio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.22

 

NDM5692 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Cynllunio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13.

Cyfnod pleidleisio

Penderfyniad:

Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: