Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 ac 8 i 11. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd
cwestiynau 4 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Dwristiaeth NDM5670
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei
Ymchwiliad i Dwristiaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2014. Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 14
Ionawr 2015. Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.01 NDM5670 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Dwristiaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 20 Tachwedd 2014. Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan
Lywodraeth Cymru ar 14 Ionawr 2015. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
|
|||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM5639
Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu cyflawni cynllun gweithredu strategol
Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm awtistig. 2. Yn nodi bod angen gwneud mwy i ddiwallu anghenion
plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru. 3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar
awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal
a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf
Awtistiaeth ar gyfer Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NNDM5639 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu cyflawni
cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm
awtistig. 2. Yn nodi bod angen gwneud
mwy i ddiwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru. 3. Yn credu y byddai gosod
dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o
eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5671
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1. Yn nodi: a) pwysigrwydd y diwydiant amaeth i economi, amgylchedd a
chymunedau Cymru; b) yr argyfwng yn y sector llaeth sy'n deillio o
ostyngiad yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr ac ansefydlogrwydd y gadwyn
laeth; c) yr ansicrwydd o ran y taliad sylfaenol sy'n deillio o
ddiddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin
(Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014 yn dilyn her barnwrol; d) y bleidlais yn Senedd Ewrop i roi'r pŵer i
aelod-wladwriaethau i awdurdodi cnydau GM i aelod-wladwriaethau, a'r ffaith mai
Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithio gyda'r gadwyn laeth a Llywodraeth y Deyrnas
Unedig i weithredu'n benodol i sicrhau cynaliadwyedd hyfyw y cynhyrchwyr
llaeth; b) sicrhau adnoddau digonol ac amserlen gyraeddadwy i
ddiogelu talu'r taliad sylfaenol ar 1 Rhagfyr 2015; ac c) ail-ddatgan ei bwriad i gadw Cymru yn ddi-GM. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: y rôl ganolog y
mae cynhyrchu bwyd yn ei chwarae yn y byd ffermio yng Nghymru o ystyried yr
angen brys i ddiogelu'r cyflenwad bwyd. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: gweithredu
mesurau rhagweithiol i hwyluso'r gwaith o gynllunio ar gyfer olyniaeth yn y sector
ffermio, o ystyried proffil oedran ffermwyr yng Nghymru a'r angen i ddarparu
mynediad i'r tir. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2: ymgysylltu ac
ymgynghori'n ddigonol â rhanddeiliaid ynghylch y system dalu newydd yn dilyn
diddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin
(Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014; a ymgysylltu â
rhanddeiliaid a gweithio gyda hwy i sicrhau hyfywedd tymor hir y gwaith o gynhyrchu
bwyd a chynhyrchwyr bwyd yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.06 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5671 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 1. Yn nodi: a) pwysigrwydd y diwydiant
amaeth i economi, amgylchedd a chymunedau Cymru; b) yr argyfwng yn y sector
llaeth sy'n deillio o ostyngiad yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr ac
ansefydlogrwydd y gadwyn laeth; c) yr ansicrwydd o ran y
taliad sylfaenol sy'n deillio o ddiddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y
Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru)
2014 yn dilyn her barnwrol; d) y bleidlais yn Senedd Ewrop
i roi'r pŵer i aelod-wladwriaethau i awdurdodi cnydau GM i
aelod-wladwriaethau, a'r ffaith mai Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wneud
y penderfyniad yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) gweithio gyda'r gadwyn
laeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu'n benodol i sicrhau
cynaliadwyedd hyfyw y cynhyrchwyr llaeth; b) sicrhau adnoddau digonol ac
amserlen gyraeddadwy i ddiogelu talu'r taliad sylfaenol ar 1 Rhagfyr 2015; ac c) ail-ddatgan ei bwriad i
gadw Cymru yn ddi-GM.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.18 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5669
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Dangos y faner goch i Gylchffordd Cymru – amlinellu'r
pryderon am brosiect Cylchffordd Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.19 NDM5669 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Dangos y faner goch i Gylchffordd Cymru –
amlinellu'r pryderon am brosiect Cylchffordd Cymru. |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |