Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5
gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd y 10 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 15.04 NDM5666 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies
(Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Alun Ffred Jones
(Plaid Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflogau Uwch-reolwyr NDM5664
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflog
Uwch Reolwyr, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2014. Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2015. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.04 NDM5664 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflog Uwch Reolwyr, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6
Tachwedd 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM5630 Antoinette
Sandbach (Gogledd Cymru) Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru) Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynlliad Cenedlaethol Cymru 1. Yn nodi: a) bod menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith
Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Cymru; b) ei bod bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y
bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal; c) bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran
sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn y gweithle. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu
contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt
unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.47 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NNDM5630 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynlliad
Cenedlaethol Cymru 1. Yn nodi: a) bod menywod wedi gwneud
cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o
economi Cymru; b) ei bod bron i 100 mlynedd
ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog
Cyfartal; c) bod gan Lywodraeth Cymru
ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn
digwydd yn y gweithle. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i
gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5665
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi
busnesau bach tan fis Mawrth 2015; b) bod Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi yn natganiad
yr Hydref ar 3 Rhagfyr 2014 y bydd gan Lywodraeth Cymru reolaeth lawn dros
ardrethi busnes ym mis Mawrth 2015. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cymorth ardrethi
busnes i fusnesau bach. 3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i helpu i
gryfhau cysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch a'r gymuned fusnes i greu
economi fwy dynamig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: y gall prifysgolion chwarae rhan hanfodol yn y broses o
greu busnesau newydd gwerth uchel, er enghraifft drwy ychwanegu 261 o gwmnïau
deilliedig newydd at economi Cymru yn 2012/13. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: mai Caerdydd yw'r unig ddinas yng Nghymru sydd ymhlith yr
20 o ddinasoedd gorau yn y DU ar gyfer dechrau busnesau newydd. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu opsiynau i sicrhau bod
prisiadau ardrethi busnes yn olrhain y farchnad yn fwy cywir ac yn lliniaru ar
gynnydd mawr mewn biliau ardrethi yn y dyfodol. Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu'r cynllun cyfredol
ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach am flwyddyn arall. Gwelliant
5 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y meini prawf
cymhwyster ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o fis Ebrill
2015 ymlaen i gyrraedd pob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai. Gwelliant
6. - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu olynydd i'r cynllun
POWIS i annog gweithio mewn partneriaeth a datblygu cwmnïau deillio yn
sefydliadau addysg uwch Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.35 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5665 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi: a) bod Llywodraeth Cymru yn
darparu rhyddhad ardrethi busnesau bach tan fis Mawrth 2015; b) bod Canghellor y Trysorlys
wedi cyhoeddi yn natganiad yr Hydref ar 3 Rhagfyr 2014 y bydd gan Lywodraeth
Cymru reolaeth lawn dros ardrethi busnes ym mis Mawrth 2015. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymestyn cymorth ardrethi busnes i fusnesau bach. 3. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch
a'r gymuned fusnes i greu economi fwy dynamig.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.31 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5663
Lynne Neagle (Torfaen) Pris glo - effaith glo brig yn Farteg a'r goblygiadau i
gymunedau y tu hwnt i'r ardal Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.33 |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |