Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd.
Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Penderfyniad: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad NDM5583
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad' a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 17 Medi 2014; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26,
fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfennau
ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.22 NDM5583 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog:
Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Medi 2014; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5585
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod angen mwy o eglurder o ran dangosyddion
perfformiad allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau
bob hanner blwyddyn o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ardaloedd
menter; a 3. Yn nodi'r angen i ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i
ardaloedd menter eraill, fel Eryri. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 1, dileu "mwy o eglurder o ran
dangosyddion" a rhoi "adolygu eglurder a dealltwriaeth o
ddangosyddion" yn ei le Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1: gan gynnwys datgrynhoi cyllid cyhoeddus a phreifat o fewn
y DPA buddsoddi, Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2: "ac y dylai'r dangosyddion perfformiad allweddol
hynny gynnwys mesurau o gynhyrchiant ym mhob ardal; a" Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3, dileu "Yn nodi'r" a rhoi "Yn
galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i archwilio i'r" [Os
derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl "Yn nodi" a
rhoi yn ei le "y byddai'n ddymunol ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i
ardaloedd menter eraill hefyd, fel Eryri, ond yn cydnabod y bydd angen, wrth
ystyried ardaloedd ychwanegol, nodi'r goblygiadau posibl o ran cost a chael
cytundeb Llywodraeth y DU". Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.23 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5585 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod angen mwy o eglurder o ran dangosyddion perfformiad
allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau bob hanner
blwyddyn o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ardaloedd menter; a 3. Yn nodi'r angen i ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd menter
eraill, fel Eryri. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio:
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Ym mhwynt 1, dileu "mwy o eglurder o ran dangosyddion" a rhoi
"adolygu eglurder a dealltwriaeth o ddangosyddion" yn ei le Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1: gan gynnwys datgrynhoi cyllid cyhoeddus a phreifat o fewn y DPA
buddsoddi, Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant. Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2: "ac y dylai'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny gynnwys
mesurau o gynhyrchiant ym mhob ardal; a" Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol
Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn
erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3, dileu "Yn nodi'r" a rhoi "Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i archwilio i'r" Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl "Yn nodi" a rhoi yn ei le
"y byddai'n ddymunol ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd menter
eraill hefyd, fel Eryri, ond yn cydnabod y bydd angen, wrth ystyried ardaloedd
ychwanegol, nodi'r goblygiadau posibl o ran cost a chael cytundeb Llywodraeth y
DU". Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5585 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod angen adolygu eglurder a dealltwriaeth o ddangosyddion
perfformiad allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau bob hanner
blwyddyn o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ardaloedd menter; a 3. Yn nodi y byddai'n ddymunol ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd
menter eraill hefyd, fel Eryri, ond yn cydnabod y bydd angen, wrth ystyried
ardaloedd ychwanegol, nodi'r goblygiadau posibl o ran cost a chael cytundeb
Llywodraeth y DU.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5584
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn uwchgynhadledd newid
hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2014 yn Efrog Newydd; 2. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw
datgoedwigo yn parhau yng Nghymru a bod ei tharged o 100,000 hectar o
goedwigaeth newydd yn cael ei gyrraedd erbyn 2030; 3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y
trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ystod ehangach o
ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, ynni adnewyddadwy
morol, treulio anaerobig ac ynni dŵr; 5. Yn galw am ddatganoli Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni
Adnewyddadwy, neu'r hyn sy'n eu dilyn, i Lywodraeth Cymru; a 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i archwilio i rwystrau i gysylltu â'r grid ar gyfer prosiectau
ynni ar raddfa fach o dan 50MW. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i
gyrraedd ei thargedau Newid Hinsawdd ar gyfer 2020; Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn llongyfarch Tidal Energy Cyf. ar ddadorchuddio ei
ddyfais DeltaStream ar 7 Awst 2014, a wnaed yn bosibl drwy ddefnyddio arian
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
prosiectau o'r fath yn parhau i gael cefnogaeth briodol yn y dyfodol fel y gall
Cymru wneud y mwyaf o botensial ynni adnewyddadwy morol i hyrwyddo dull grid
cymysg. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn croesawu'r datblygiad diweddar o ddwy ardal profi ac
arddangos morol yn nyfroedd Cymru ac yn galw ar LywodraethCymru i ddarparu
gwybodaeth reolaidd i'r Cynulliad am ei chynnydd tuag at alluogi datblygiadau
technolegol pellach a masnacheiddio dyfeisiadau sy'n defnyddio ynni
adnewyddadwy o'r tonnau a'r llanw. Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn credu bod adnoddau naturiol Cymru yn asedau gwerthfawr
y gellid eu defnyddio i dorri allyriadau carbon, ac yn galw am ddatganoli'r
holl bwerau dros ynni yn llawn, gan gynnwys pob agwedd ar drwyddedu, caniatâd
cynllunio ac Ystad y Goron. Gwelliant
5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed i Gymru fod yn
hunangynhaliol o ran trydan adnewyddadwy. Gwelliant
6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen ôl-osod
uchelgeisiol i gynyddu effeithlonrwydd ynni y stoc dai bresennol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5584 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn uwchgynhadledd newid hinsawdd y
Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2014 yn Efrog Newydd; 2. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw datgoedwigo yn parhau yng
Nghymru a bod ei tharged o 100,000 hectar o goedwigaeth newydd yn cael ei
gyrraedd erbyn 2030; 3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i
gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ystod ehangach o ynni
adnewyddadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, ynni adnewyddadwy morol,
treulio anaerobig ac ynni dŵr; 5. Yn galw am ddatganoli Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy,
neu'r hyn sy'n eu dilyn, i Lywodraeth Cymru; a 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
archwilio i rwystrau i gysylltu â'r grid ar gyfer prosiectau ynni ar raddfa
fach o dan 50MW. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio:
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i gyrraedd ei
thargedau Newid Hinsawdd ar gyfer 2020; Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn llongyfarch Tidal Energy Cyf. ar ddadorchuddio ei ddyfais DeltaStream
ar 7 Awst 2014, a wnaed yn bosibl drwy ddefnyddio arian Swyddfa Cyllid
Ewropeaidd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau o'r
fath yn parhau i gael cefnogaeth briodol yn y dyfodol fel y gall Cymru wneud y
mwyaf o botensial ynni adnewyddadwy morol i hyrwyddo dull grid cymysg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn croesawu'r datblygiad diweddar o ddwy ardal profi ac arddangos morol
yn nyfroedd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth reolaidd
i'r Cynulliad am ei chynnydd tuag at alluogi datblygiadau technolegol pellach a
masnacheiddio dyfeisiadau sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau a'r
llanw. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Elin Jones
(Ceredigion) Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn credu bod adnoddau naturiol Cymru yn asedau gwerthfawr y gellid eu
defnyddio i dorri allyriadau carbon, ac yn galw am ddatganoli'r holl bwerau
dros ynni yn llawn, gan gynnwys pob agwedd ar drwyddedu, caniatâd cynllunio ac
Ystad y Goron. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed i Gymru fod yn hunangynhaliol
o ran trydan adnewyddadwy. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen ôl-osod uchelgeisiol i
gynyddu effeithlonrwydd ynni y stoc dai bresennol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5584 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn uwchgynhadledd newid hinsawdd y
Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2014 yn Efrog Newydd; 2. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw datgoedwigo yn parhau yng
Nghymru a bod ei tharged o 100,000 hectar o goedwigaeth newydd yn cael ei
gyrraedd erbyn 2030; 3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i
gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ystod ehangach o ynni
adnewyddadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, ynni adnewyddadwy morol,
treulio anaerobig ac ynni dŵr; 5. Yn croesawu'r datblygiad diweddar o ddwy ardal profi ac arddangos
morol yn nyfroedd Cymru ac yn galw ar LywodraethCymru i ddarparu gwybodaeth
reolaidd i'r Cynulliad am ei chynnydd tuag at alluogi datblygiadau technolegol
pellach a masnacheiddio dyfeisiadau sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau
a'r llanw. 6. Yn llongyfarch Tidal Energy Cyf. ar ddadorchuddio ei ddyfais
DeltaStream ar 7 Awst 2014, a wnaed yn bosibl drwy ddefnyddio arian Swyddfa
Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
prosiectau o'r fath yn parhau i gael cefnogaeth briodol yn y dyfodol fel y gall
Cymru wneud y mwyaf o botensial ynni adnewyddadwy morol i hyrwyddo dull grid
cymysg. 7. Yn galw am ddatganoli Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy,
neu'r hyn sy'n eu dilyn, i Lywodraeth Cymru. 8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
archwilio i rwystrau i gysylltu â'r grid ar gyfer prosiectau ynni ar raddfa
fach o dan 50MW. 9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen ôl-osod uchelgeisiol
i gynyddu effeithlonrwydd ynni y stoc dai bresennol.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5587
Elin Jones AC (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn
niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy; 2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar gyfer bwrw
ymlaen â'r 'llwybr du'; 3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd
Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r
'llwybr glas' am resymau economaidd, amgylcheddol ac ariannol ac er mwyn rheoli
traffig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn
niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy; 2. Yn cadarnhau bod diffyg achos tryloyw dros fwrw ymlaen
â'r 'llwybr du' ac yn galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
i gyhoeddi tystiolaeth glir bod materion amgylcheddol wedi cael eu hystyried yn
llawn a bod proses o ddiwydrwydd dyladwy effeithiol wedi ei dilyn; 3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd
Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill ac y bydd, yn
ddiamau, yn effeithio ar gynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y cafodd y
'llwybr glas' ei ddiystyru yn gynnar ac amlinellu pa amodau economaidd, rheoli
traffig, amgylcheddol ac ariannol y methodd y llwybr â'u cwrdd. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 2, 3 a 4. [Os
derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a
chamau gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir fod yn
flaenoriaeth fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mewnosod ym mhwynt 4 ar ôl 'llwybr glas': Yn ogystal â datrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus addas Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.14 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5587 Elin Jones AC
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i
economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy; 2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar gyfer bwrw ymlaen â'r
'llwybr du'; 3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un
prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth llawn i'r 'llwybr glas'
am resymau economaidd, amgylcheddol ac ariannol ac er mwyn rheoli traffig. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio:
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i
economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy; 2. Yn cadarnhau bod diffyg achos tryloyw dros fwrw ymlaen â'r 'llwybr
du' ac yn galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gyhoeddi
tystiolaeth glir bod materion amgylcheddol wedi cael eu hystyried yn llawn a
bod proses o ddiwydrwydd dyladwy effeithiol wedi ei dilyn; 3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un
prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill ac y bydd, yn ddiamau, yn
effeithio ar gynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y cafodd y 'llwybr glas' ei
ddiystyru yn gynnar ac amlinellu pa amodau economaidd, rheoli traffig,
amgylcheddol ac ariannol y methodd y llwybr â'u cwrdd.
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pwyntiau 2, 3 a 4. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chamau
gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir fod yn flaenoriaeth
fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Mewnosod ym mhwynt 4 ar ôl 'llwybr glas': Yn ogystal â datrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus addas Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5587 Elin Jones AC (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd
yn niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy; 2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar
gyfer bwrw ymlaen â'r 'llwybr du'; 3. Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth
gyhoeddus a chamau gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir
fod yn flaenoriaeth fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig. 4. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau
benthyca newydd Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill;
a 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi
ystyriaeth llawn i'r 'llwybr glas' am resymau economaidd, amgylcheddol ac
ariannol ac er mwyn rheoli traffig.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.14 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5586
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cyfranogiad etholwyr a sut y gallwn gael pethau'n iawn
mewn perthynas â democratiaeth. Yn dilyn y refferendwm yn yr Alban, sut y gall y
Cynulliad Cenedlaethol gynyddu nifer yr etholwyr sy'n cyfranogi, ac a oes angen
edrych ar ffyrdd newydd o gael pobl i bleidleisio? Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.25 NDM5586 Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru) Cyfranogiad etholwyr a sut y gallwn gael pethau'n iawn mewn perthynas â
democratiaeth. Yn dilyn y refferendwm yn yr Alban, sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol
gynyddu nifer yr etholwyr sy'n cyfranogi, ac a oes angen edrych ar ffyrdd
newydd o gael pobl i bleidleisio? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |