Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3 a 5 i 8. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 a 9 i 11. Tynnwyd cwestiynau 7 ac 8 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi.

(15 munud)

3.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Gofynnwyd y ddau gwestiwn.

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Bil Sector Amaethyddol (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

(60 munud)

5.

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM5552

Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r awydd llethol ymhlith cefnogwyr pêl-droed i weld cyfleusterau sefyll diogel yn cael eu cyflwyno;

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chymdeithasau chwaraeon ac awdurdodau rheoleiddio i hyrwyddo cyfleusterau sefyll ddiogel yn stadia chwaraeon yng Nghymru; ac

Yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno cynllun peilot ar gyfer cyfleusterau sefyll diogel yng Nghymru.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NNDM5536

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

20

1

47

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i reoli tir yn gynaliadwy

NDM5554 Alun Ffred Jones (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2014.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2014.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.27

NDM5554 Alun Ffred Jones (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2014.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NNDM5555

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Elin Jones (Ceredigion)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r Cod Gweinidogol: Cod Moeseg a Chanllawiau Gweithdrefnol i Weinidogion.

2. Yn nodi disgwyliad y Prif Weinidog bod yr holl Weinidogion, Dirprwy Weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol yn cydymffurfio â'r Cod.

3. Yn nodi'r adroddiad i'r Prif Weinidog ar gydymffurfiaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd â'r Cod Gweinidogol mewn perthynas â Cylchffordd Cymru, sy'n cadarnhau bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi torri'r Cod Gweinidogol.

4. Yn galw am benodi Dyfarnwr Annibynnol y Cod Gweinidogol er mwyn gwella tryloywder a, thrwy hynny, cynyddu hyder yn y rhai a gaiff eu hethol i swyddi cyhoeddus.

Mae’r Cod Gweinidogol: Cod Moeseg a Chanllawiau Gweithdrefnol i Weinidogion ar gael yma: http://wales.gov.uk/docs//dfm/publications/110708ministerialcodeen.doc[Saesneg yn unig]

Mae adroddiad i'r Prif Weinidog ar gydymffurfiaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd â'r Cod Gweinidogol mewn perthynas â Cylchffordd Cymru ar gael yma (Saesneg yn unig): http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-fourth-deposited-papers.htm?act=dis&id=257125&ds=7/2014

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.01

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NNDM5555

Paul Davies (Preseli Penfro)

Elin Jones (Ceredigion)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r Cod Gweinidogol: Cod Moeseg a Chanllawiau Gweithdrefnol i Weinidogion.

2. Yn nodi disgwyliad y Prif Weinidog bod yr holl Weinidogion, Dirprwy Weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol yn cydymffurfio â'r Cod

3. Yn nodi'r adroddiad i'r Prif Weinidog ar gydymffurfiaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd â'r Cod Gweinidogol mewn perthynas â Cylchffordd Cymru, sy'n cadarnhau bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi torri'r Cod Gweinidogol

4. Yn galw am benodi Dyfarnwr Annibynnol y Cod Gweinidogol er mwyn gwella tryloywder a, thrwy hynny, cynyddu hyder yn y rhai a gaiff eu hethol i swyddi cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd y cynnig.

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.52

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

8.

Dadl Fer

NDM5553 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Y daith at ddysg: y ddarpariaeth o drafnidiaeth i ysgolion a cholegau yng Nghymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.53

NDM5553 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Y daith at ddysg: y ddarpariaeth o drafnidiaeth i ysgolion a cholegau yng Nghymru

(30 munud)

9.

Dadl Fer - gohiriwyd o 18 Mehefin 2014

NDM5528 Nick Ramsay (Mynwy)

Llais - Siarad ar ran pobl sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor yng Nghymru.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.11

NDM5528 Nick Ramsay (Mynwy)

Llais - Siarad ar ran pobl sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor yng Nghymru.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: