Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestinau 1 a 3 i 15.
Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.20 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2, 4 i 12
ac 14 i 15. Tynnwyd cwestiwnau 3 ac 13 yn ôl. Cafodd cwestiynau 14 ac 15 eu
grwpio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch yr Ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE NDM5518
David Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn
yr UE, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Ymateb
Llywodraeth Cymru [Saesneg yn unig] Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 NDM5518 David Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar
ei ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru NDM5519
David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar
waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21
Mawrth 2014. Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 15.55 NDM5519 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth
2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5520
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd yr economi ddigidol, ac yn
datblygu seilwaith i'w chynnal. 2. Yn gresynu at y ffaith bod ardaloedd yng Nghymru o hyd lle
nad oes fawr ddim darpariaeth band eang neu 3G, os o gwbl, a'r effaith andwyol
y mae hyn yn ei chael ar fusnesau ac unigolion. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion ynghylch sut y
bydd y £12 miliwn o’r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cyflymu
Cymru yn cael ei ddyrannu. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith mai Cymru sydd â’r gyfran fwyaf o
safleoedd mewn mannau gwan posibl ac mai yng Nghymru y mae’r argaeledd isaf o
ran gwasanaethau band eang cyflym iawn o’i gymharu â gweddill y DU. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y penderfyniad i gynnig gwasanaeth band eang
Ffeibr i’r Cabinet yn hytrach na gwasanaeth Ffeibr i’r Safleoedd. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau ar waith i
gyflwyno band eang cyflym iawn i’r 4% o safleoedd na fyddant yn cael eu
gwasanaethu gan ymrwymiadau presennol. Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ac annog busnesau i fanteisio
ar y cyfleoedd y mae cysylltedd digidol yn eu cynnig. Gwelliant
5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gynllun cyflwyno er
mwyn cael darpariaeth 4G lawn ledled Cymru. Gwelliant
6 - Aled Roberts (North Wales) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i
roi diwedd ar honiadau camarweiniol gan gwmnïau band eang sy’n gweld cwsmeriaid
yng Nghymru yn talu am wasanaeth cyflym nad ydynt yn gallu ei gael. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.42 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5520 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd yr economi ddigidol, a datblygu seilwaith i'w
chynnal. 2. Yn gresynu bod ardaloedd yng Nghymru o hyd lle nad oes fawr ddim
darpariaeth band eang neu 3G, os o gwbl, a'r effaith andwyol y mae hyn yn ei
chael ar fusnesau ac unigolion. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion
ynghylch sut y bydd y £12 miliwn o’r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar
gyfer Cyflymu Cymru yn cael ei ddyrannu.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.30 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5517
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Atebolrwydd rheolwyr GIG Cymru Archwilio rôl a chyfrifoldeb byrddau a swyddogion y GIG o ran
cyflenwi gofal diogel ac effeithiol yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.32 NDM5517 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Atebolrwydd rheolwyr GIG Cymru Archwilio rôl a chyfrifoldeb byrddau a swyddogion y GIG o ran cyflenwi
gofal diogel ac effeithiol yng Nghymru. |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |