Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1, 3 i 9, 11 a 12. Tynnwyd cwestiynau 2 a 10 yn ôl.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 5 a 7 i 15. Cafodd cwestiynau 11 a 12 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl.

(60 munud)

3.

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad

NDM5351 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Awst 2013.

 

Sylwer: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 6 Tachwedd 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.58

NDM5351 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Awst 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

4.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM5353 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar yr argymhellion a geir yn Rhan 1 Silk 'Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru';

 

2. Yn nodi y dylai cyflwyno Pwerau Benthyca i Lywodraeth Cymru gynorthwyo yn y broses o ddarparu prosiectau seilwaith allweddol ledled Cymru;

 

3. Yn croesawu ymhellach y datganiad y bydd uwchgynhadledd NATO yn cael ei chynnal yng ngwesty'r Celtic Manor yn 2014 ac yn nodi'r manteision economaidd uchel a ddylai ddod i economi Cymru yn sgîl cynnal digwyddiad o'r fath;

 

4. Yn edrych ymlaen at glywed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfleoedd hyn yn y ffordd orau i Gymru.

 

Mae ‘Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymruar gael yn:

 

http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.45

NDM5353 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar yr argymhellion a geir yn Rhan 1 Silk 'Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru';

2. Yn nodi y dylai cyflwyno Pwerau Benthyca i Lywodraeth Cymru gynorthwyo yn y broses o ddarparu prosiectau seilwaith allweddol ledled Cymru;

3. Yn croesawu ymhellach y datganiad y bydd uwchgynhadledd NATO yn cael ei chynnal yng ngwesty'r Celtic Manor yn 2014 ac yn nodi'r manteision economaidd uchel a ddylai ddod i economi Cymru yn sgîl cynnal digwyddiad o'r fath;

4. Yn edrych ymlaen at glywed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfleoedd hyn yn y ffordd orau i Gymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM5354 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod y sector busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 73% o'r holl gyflogaeth mewn ardaloedd gwledig a bod mentrau bach a chanolig yn chwarae rhan hanfodol yn nhwf economaidd cynaliadwy ardaloedd gwledig, o ran ysgogi arloesi a datblygu a helpu i fynd i'r afael â heriau allweddol diweithdra, mudo o'r wlad i'r dref a thlodi.

 

2. Yn nodi bod diffyg mynediad i gyllid yn amharu ar rôl bosibl busnesau bach a chanolig mewn datblygu economaidd gwledig.

 

3. Yn nodi'r heriau penodol o ran y nifer sy'n manteisio ar brentisiaethau mewn busnesau bach a chanolig.

 

4. Yn nodi bod y gagendor digidol o ran band-eang a signalau ffonau symudol yn rhwystro cystadleurwydd a hygyrchedd busnesau mewn ardaloedd gwledig.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) archwilio strwythur banc cymunedol i gynnal presenoldeb banciau lleol mewn cymunedau gwledig, ac i weithio gyda’r undebau credyd i gynyddu benthyca i fusnesau;

 

b) gweithio gyda busnesau yn y sectorau amaethyddol, ynni adnewyddadwy a thwristiaeth i nodi ffyrdd o oresgyn rhwystrau i gynyddu'r cyflenwad o brentisiaethau gwledig;

 

c) gwneud mynediad cyffredinol i fand-eang yn rhwymedigaeth i ddarparwyr a gweithio gydag Ofcom a gweithredwyr rhwydwaith i ymchwilio i rannu darpariaeth seilwaith mewn ardaloedd gwledig i sicrhau cymaint o ddarpariaeth â phosibl.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

 

ac yn nodi anallu Cyllid Cymru i gynnig cyllid i fusnesau bach a chanolig ar gyfraddau cystadleuol

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

 

ac yn cydnabod y camau cadarnhaol a gymerwyd drwy gytundeb cyllideb 2013/14 ar brentisiaethau rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.’

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu at yr effaith negyddol y mae cam-werthu cynnyrch gwarchod rhag risgiau cyfraddau llog gan fanciau’r stryd fawr wedi’i chael ar yr economi wledig.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi ymhellach y pwyntiau a amlinellir yn adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ynghylch prentisiaethau mewn ardaloedd gwledig.

 

Mae adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes, ‘Prentisiaethau yng Nghymru’, ar gael yn:

 

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/documents/s11015/Apprenticeships%20in%20Wales%20Report%20-%20October%202012.pdf

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn credu bod cost tanwydd mewn ardaloedd gwledig yn cael effaith negyddol ar yr economi wledig, ac yn gresynu nad oedd cais Llywodraeth y DU i ehangu’r Ad-daliad Tanwydd Gwledig yn cynnwys unrhyw ardaloedd yng Nghymru.

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod seilwaith trafnidiaeth wledig effeithiol yn allweddol ar gyfer cymunedau gwledig ac yn hanfodol ar gyfer ysgogi datblygiadau economaidd a mynd i’r afael ag arwahanrwydd gwledig.

 

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod baich ardrethi busnes ar fusnesau bach a chanolig gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mwy o ryddhad ardrethi busnes i fusnesau bach ledled Cymru.

 

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys is-bwynt 5a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

edrych ar beth yw manteision sefydlu banc busnes hyd braich, di-ddifidend, sy’n eiddo cyhoeddus, i fusnesau bach a chanolig gwledig, i gynnig cyllid ar gyfraddau cystadleuol i fusnesau bach a chanolig Cymru.’

 

Gwelliant 9 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu is-bwynt 5c.

 

[Os derbynnir gwelliant 9, bydd gwelliant 10 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Yn is-bwynt 5c, dileu popeth ar ôlddarparwyr’ a rhoi yn ei le, ‘a sicrhau trawsrwydweithio gorfodol yn yr holl ardaloedd gwledig er mwyn i’r holl weithredwyr wella cystadleuaeth o ran prisiau a chynyddu’r ddarpariaeth’.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5354 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod y sector busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 73% o'r holl gyflogaeth mewn ardaloedd gwledig a bod mentrau bach a chanolig yn chwarae rhan hanfodol yn nhwf economaidd cynaliadwy ardaloedd gwledig, o ran ysgogi arloesi a datblygu a helpu i fynd i'r afael â heriau allweddol diweithdra, mudo o'r wlad i'r dref a thlodi.

2. Yn nodi bod diffyg mynediad i gyllid yn amharu ar rôl bosibl busnesau bach a chanolig mewn datblygu economaidd gwledig.

3. Yn nodi'r heriau penodol o ran y nifer sy'n manteisio ar brentisiaethau mewn busnesau bach a chanolig.

4. Yn nodi bod y gagendor digidol o ran band-eang a signalau ffonau symudol yn rhwystro cystadleurwydd a hygyrchedd busnesau mewn ardaloedd gwledig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) archwilio strwythur banc cymunedol i gynnal presenoldeb banciau lleol mewn cymunedau gwledig, ac i weithio gydag undeb credyd i gynyddu benthyca i fusnesau;

b) gweithio gyda busnesau yn y sectorau amaethyddol, ynni adnewyddadwy a thwristiaeth i nodi ffyrdd o oresgyn rhwystrau i gynyddu'r cyflenwad o brentisiaethau gwledig;

c) gwneud mynediad cyffredinol i fand-eang yn rhwymedigaeth i ddarparwyr a gweithio gydag Ofcom a gweithredwyr rhwydwaith i ymchwilio i rannu darpariaeth seilwaith mewn ardaloedd gwledig i sicrhau cymaint o ddarpariaeth â phosibl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

49

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

‘ac yn nodi anallu Cyllid Cymru i gynnig cyllid i fusnesau bach a chanolig ar gyfraddau cystadleuol’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

‘ac yn cydnabod y camau cadarnhaol a gymerwyd drwy gytundeb cyllideb 2013/14 ar brentisiaethau rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

12

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at yr effaith negyddol y mae cam-werthu cynnyrch gwarchod rhag risgiau cyfraddau llog gan fanciau’r stryd fawr wedi’i chael ar yr economi wledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi ymhellach y pwyntiau a amlinellir yn adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ynghylch prentisiaethau mewn ardaloedd gwledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod cost tanwydd mewn ardaloedd gwledig yn cael effaith negyddol ar yr economi wledig, ac yn gresynu nad oedd cais Llywodraeth y DU i ehangu’r Ad-daliad Tanwydd Gwledig yn cynnwys unrhyw ardaloedd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

17

0

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod seilwaith trafnidiaeth wledig effeithiol yn allweddol ar gyfer cymunedau gwledig ac yn hanfodol ar gyfer ysgogi datblygiadau economaidd a mynd i’r afael ag arwahanrwydd gwledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod baich ardrethi busnes ar fusnesau bach a chanolig gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mwy o ryddhad ardrethi busnes i fusnesau bach ledled Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys is-bwynt 5b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

‘edrych ar beth yw manteision sefydlu banc busnes hyd braich, di-ddifidend, sy’n eiddo cyhoeddus, i fusnesau bach a chanolig gwledig, i gynnig cyllid ar gyfraddau cystadleuol i fusnesau bach a chanolig Cymru.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

12

54

Derbyniwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu is-bwynt 5c.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

26

54

Derbyniwyd gwelliant 9.

Gan fod gwelliant 9 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 10 ei ddad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5354 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod y sector busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 73% o'r holl gyflogaeth mewn ardaloedd gwledig a bod mentrau bach a chanolig yn chwarae rhan hanfodol yn nhwf economaidd cynaliadwy ardaloedd gwledig, o ran ysgogi arloesi a datblygu a helpu i fynd i'r afael â heriau allweddol diweithdra, mudo o'r wlad i'r dref a thlodi.

2. Yn nodi bod diffyg mynediad i gyllid yn amharu ar rôl bosibl busnesau bach a chanolig mewn datblygu economaidd gwledig.

3. Yn nodi'r heriau penodol o ran y nifer sy'n manteisio ar brentisiaethau mewn busnesau bach a chanolig ac yn cydnabod y camau cadarnhaol a gymerwyd drwy gytundeb cyllideb 2013/14 ar brentisiaethau rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

4. Yn gresynu at yr effaith negyddol y mae cam-werthu cynnyrch gwarchod rhag risgiau cyfraddau llog gan fanciau’r stryd fawr wedi’i chael ar yr economi wledig.

5. Yn nodi ymhellach y pwyntiau a amlinellir yn adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ynghylch prentisiaethau mewn ardaloedd gwledig.

6. Yn credu bod cost tanwydd mewn ardaloedd gwledig yn cael effaith negyddol ar yr economi wledig, ac yn gresynu nad oedd cais Llywodraeth y DU i ehangu’r Ad-daliad Tanwydd Gwledig yn cynnwys unrhyw ardaloedd yng Nghymru.

7. Yn nodi bod seilwaith trafnidiaeth wledig effeithiol yn allweddol ar gyfer cymunedau gwledig ac yn hanfodol ar gyfer ysgogi datblygiadau economaidd a mynd i’r afael ag arwahanrwydd gwledig.

8. Yn nodi bod y gagendor digidol o ran band-eang a signalau ffonau symudol yn rhwystro cystadleurwydd a hygyrchedd busnesau mewn ardaloedd gwledig.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) archwilio strwythur banc cymunedol i gynnal presenoldeb banciau lleol mewn cymunedau gwledig, ac i weithio gydag undeb credyd i gynyddu benthyca i fusnesau;

b) edrych ar beth yw manteision sefydlu banc busnes hyd braich, di-ddifidend, sy’n eiddo cyhoeddus, i fusnesau bach a chanolig gwledig, i gynnig cyllid ar gyfraddau cystadleuol i fusnesau bach a chanolig Cymru.

c) gweithio gyda busnesau yn y sectorau amaethyddol, ynni adnewyddadwy a thwristiaeth i nodi ffyrdd o oresgyn rhwystrau i gynyddu'r cyflenwad o brentisiaethau gwledig;

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.49

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

6.

Dadl Fer

NDM5352 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Anghyfleusterau Cyhoeddus - Pam y mae Toiledau Cyhoeddus yn bwysig

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.53

NDM5352 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Anghyfleusterau Cyhoeddus - Pam y mae Toiledau Cyhoeddus yn bwysig

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: