Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 a 5 gan
y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Penderfyniad: Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd cwestiynau 1, 3 i 4 a 6 i 10. Tynnwyd cwestiynau 2 a 5 yn
ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM5235 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod hyrwyddo diodydd egni llawn caffein
i blant a phobl ifanc yn achos
o bryder sylweddol i iechyd y cyhoedd; a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r pryderon iechyd sy'n ymwneud â diodydd egni llawn
caffein. Cefnogir
gan: Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin
a De Sir Benfro) Ann
Jones (Dyffryn Clwyd) Keith
Davies (Llanelli) Ken
Skates (De Clwyd) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Dileu pwynt 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.02 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5235
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod hyrwyddo diodydd egni llawn caffein
i blant a phobl ifanc yn achos
o bryder sylweddol i iechyd y cyhoedd; a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r pryderon iechyd sy'n ymwneud â diodydd egni llawn
caffein.
Derbyniwyd y cynnig heb ei
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5240 William Graham
(Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau allweddol ar draws pob
portffolio, yn enwedig amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros
damweiniau ac achosion brys; 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi enghreifftiau sy'n dangos sut y mae'r Uned
Gyflawni wedi gwella cyflawni mewn portffolios penodol, gan sicrhau bod yr hyn
sy'n cael ei addo yn cael ei gyflawni; a 3.
Yn annog y Prif Weinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad
Cenedlaethol yn rheolaidd am gynnydd ym mhob maes polisi y gellir ei briodoli'n
uniongyrchol i'r Uned Gyflawni. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau
penodedig ochr yn ochr â holl strategaethau’r llywodraeth. Gwelliant 2 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
galw ar Brif Weinidog Cymru i ddarparu manylion am strwythur a chost yr Uned
Gyflawni a sut mae'n gweithredu i gyflawni'r rôl a gafodd ei diffinio gan y
Prif Weinidog yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 13 Gorffennaf 2011. Mae
datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ar gael drwy ddilyn y linc ganlynol: http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julydeliveryunit/?skip=1&lang=cy Gwelliant 3 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ym
mhwynt 3 dileu’r cyfan ar ôl "Weinidog i” a rhoi yn ei le “gynnal dadl
flynyddol ar gynnydd yr Uned Gyflawni yn y Cynulliad Cenedlaethol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.57 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5240
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi methiant
Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau allweddol ar draws pob portffolio, yn enwedig amseroedd
ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros damweiniau ac achosion brys; 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i roi enghreifftiau sy'n dangos sut
y mae'r Uned Gyflawni wedi gwella
cyflawni mewn portffolios penodol, gan sicrhau bod yr hyn sy'n
cael ei addo
yn cael ei
gyflawni; a 3.
Yn annog y Prif Weinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rheolaidd am gynnydd ym mhob
maes polisi
y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i'r Uned Gyflawni.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau penodedig ochr yn ochr
â holl strategaethau’r llywodraeth. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn galw
ar Brif Weinidog
Cymru i ddarparu manylion am strwythur a chost yr Uned
Gyflawni a sut mae'n gweithredu i gyflawni'r rôl a gafodd ei diffinio
gan y Prif Weinidog yn ei
ddatganiad ysgrifenedig ar 13 Gorffennaf 2011. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 3 dileu’r cyfan ar ôl
"Weinidog i” a rhoi yn ei le “gynnal
dadl flynyddol ar gynnydd yr
Uned Gyflawni yn y Cynulliad Cenedlaethol. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5239 Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi pwysigrwydd buddsoddi yn y seilwaith o ran caffael, prentisiaethau,
cyflogaeth a busnesau bach yn economi Cymru; 2.
Yn cydnabod yr effaith negyddol ar economi Cymru yn sgîl toriadau i'r gyllideb
gyfalaf yn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2010; a 3.
Yn galw am ddiogelu'r gyllideb gyfalaf i Gymru yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o
Wariant sydd ar y gweill. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
pwynt 1 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i feddwl mewn ffordd arloesol ac i ystyried pob model
wrth ariannu prosiectau cyfalaf. Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ym
mhwynt 1, ar ôl ‘seilwaith’ cynnwys ‘, gan gynnwys cyllid ar gyfer band eang
cyflym iawn a thrydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a
chymoedd de Cymru,' Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
ar ddiwedd pwynt 1, ‘ac yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU mewn
seilweithiau band eang a thrafnidiaeth yng Nghymru’ Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi creu Banc Buddsoddi Gwyrdd, sy’n
cyfeirio biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad preifat i faes ynni adnewyddadwy, ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chamau i gefnogi busnesau i wneud
cais am arian i sicrhau'r buddsoddiad gorau posibl yn y seilwaith ynni a swyddi
gwyrdd yng Nghymru. Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi gwybodaeth glir i’r gymuned fusnes yng Nghymru
am unrhyw bolisïau caffael newydd ar gyfer prosiectau seilwaith. Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu
pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cael mwy na £858 miliwn o gyllid cyfalaf
ychwanegol yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant presennol. [Os derbynnir gwelliant
6, bydd gwelliant 7 yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 7 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
gresynu at y lefelau gwario anghynaliadwy ac anghyfrifol o dan Lywodraeth Lafur
flaenorol y DU, a arweiniodd at ddiffyg blynyddol o £170.8 biliwn erbyn diwedd
2009-10, ac yn croesawu’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth bresennol y
DU sydd wedi torri traean oddi ar y diffyg, wedi creu miliwn a chwarter o
swyddi newydd yn y sector preifat ac wedi cadw'r cyfraddau llog ar eu lefelau
isaf erioed bron, a fydd yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer buddsoddi yn
economi Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.55 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5239
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi pwysigrwydd
buddsoddi yn y seilwaith o ran caffael, prentisiaethau, cyflogaeth a busnesau bach yn
economi Cymru; 2.
Yn cydnabod yr effaith negyddol
ar economi Cymru yn sgîl
toriadau i'r gyllideb gyfalaf yn Adolygiad Cynhwysfawr
o Wariant 2010; a 3.
Yn galw am ddiogelu'r gyllideb gyfalaf i Gymru yn yr Adolygiad
Cynhwysfawr o Wariant sydd ar y gweill.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17:45 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5238 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Niwroffisiotherapi yng
Nghymru Dadl ar
ddarparu ffisiotherapi i bobl sy'n byw
gyda chyflyrau niwrolegol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.52 NDM5238
Mark Isherwood (Gogledd Cymru):
Niwroffisiotherapi yng
Nghymru Dadl ar ddarparu ffisiotherapi i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |